Yn ôl y prif hyfforddwr, Nigel Davies, mae'r ffaith fod gymaint o sêr ifanc y rhanbarth wedi torri'u henwau ar gytundebau newydd yn arwydd o ymroddiad y Scarlets i feithrin talentau lleol ac i lwyddo drwy ddatblygiad: "Rydym ni wrth ein boddau fod gymaint o chwaraewyr allweddol wedi ymrwymo i'r Scarlets am dymhorau i ddod - i'n arddull ni o chwarae, a'n diwylliant ni. "Roedd hi'n holl bwysig i ddatblygiad ag uchelgais y rhanbarth fod cnewyllyn y garfan yn aros yma. "Mae'n arwydd o'n buddsoddiad ni mewn datblygu talent o fewn ein rhanbarth, fod y tîm a wynebodd Treviso ar y penwythnos yn gyfan gwbl Gymreig. "Mae'n athroniaeth ni o ddarganfod, meithrin a datblygu talent ifanc yn dwyn ffrwyth ac yn dechrau dangos ei werth. Rydym wedi gweld hynny ar y llwyfan rhyngwladol efo gymaint o'n chwaraewyr yn cynrychioli Cymru ar bob lefel - o'r tîm dan 18 i fyny. "Mae hynny'n destun balchder i'r holl dîm hyfforddi a chefnogwyr y Scarlets. "Pan fo rhywun yn ystyried arweiniad a phrofiad chwaraewyr fel Stephen Jones, Matthew Rees, ac Iestyn Thomas, mae 'yma gymysgedd da. Mae'r gymysgedd o chwaraewyr ifanc a'r profiadol, ynghyd â'r tîm hyfforddi yn ychwanegu egni ac yn gwneud yr awyrgylch yma yn gystadleuol a deinamig."
|