Mae'r tri wedi sefydlu eu hunain yn aelodau allweddol o dîm y Gleision dros y tymhorau diwethaf, gyda Halfpenny a Davies hefyd yn hawlio lle rheolaidd yn nhîm Cymru. Nid yw'r rhanbarth wedi datgelu hyd yr estyniadau. Pedwar aelod arall sydd hefyd wedi ennill cytundebau newydd yw Dafydd Hewitt, Josh Navidi, Andries Pretorius a James Down. Cyhoeddodd y Gleision ym mis Chwefror bod blaenasgellwr Cymru Sam Warburton hefyd wedi ymrwymo ei hun i'r rhanbarth. Ac mae Martyn Williams wedi cael estyniad o 12 mis er i'r rhanbarth ddweud yn wreiddiol nad oedd digon o arain yn y gyllideb i'w gadw.
|