Sicrhaodd Llanymddyfri eu lle yn rownd derfynol Cwpan Konica Minolta am y tro cyntaf erioed yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Llanelli yn Aberafan.
Arwel Davies sgoriodd y cais hollbwysig i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm sydd ar waelod Uwchgynghrair Cymru.
Bydd Llanymddyfri yn wynebu Caerdydd neu Benybont yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm ar 28 Ebrill.
Llanymddyfri yw'r deuddegfed tîm i gyrraedd y rownd derfynol ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1971/72