Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Moduro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 12 Tachwedd 2010

Stormydd Cymru yn brawf olaf i Loeb

Sebastien Loeb yng nghoedwigoedd Cymru

Gan Gareth Rhys Owen


Fe ddylse hi fod yn ddiweddglo hynod o ddramatig yng nghysgod haul tanbaid.

Yn anffodus, mae Abu Dhabi rhyw 3500 milltir o Fae Caerdydd - ac yn wahanol i gynnwrf penwythnos ola'r tymor Fformiwla Un, prin iawn sydd yn y fantol wrth i bencampwriaeth ralio'r byd ddirwyn i ben yng Nghymru.

Mae'r bencampwriaeth eisoes yn nwylo Sebastien Loeb (ei seithfed yn olynol). A gan fod ei dîm Citroen hefyd wedi cipio pencampwriaeth y gwneuthurwyr, fe all ddyn dybio y base'r gyrwyr yn cymryd pethau'n hamddenol.

Fydd y tywydd yn gwneud hynny'n anodd. Mae Sebsatien Loeb yn cyfaddef nad yw e'n hoff iawn o'r tywydd gwlyb a gwyntog yma.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyrwyr 'di gorfod delio ag ystod eang o amodau.

Fe fydd Loeb yn hapus i glywed nad oes sôn o'r rhew a'r eira a welwyd yn 2008. Ond fe fydd y gwyntoedd ym Mae Caerdydd Nos iau yn creu pryder.

Roedd 'na wyntoedd cryfion i groesawu'r gyrwyr yn y cymal agoriadol rhwng Bae Caerdydd a Phenarth nos Iau.

Loeb oedd gyflymaf, yn ennill mantais o ryw hanner eiliad dros Ffrancwyr arall mewn Citroen, Sebastien Ogier.

Ond prin iawn o effaith fydd y cymalau byr yn ei gael ar y canlyniad terfynol.

Yn wahanol i chwaraewyr pêl-droed neu rygbi, mae gyrwyr rali yn cael cyfle go lew i weld y wlad y maen nhw'n ymweld â hi.

Y penwythnos yma, fe fydd y cystadleuwyr yn teithio dros 1500 cilometr drwy ganol Cymru.

Dydd Gwener, fe fydd y rali yn ymweld ag hen ffrindiau yng nghanolbarth Cymru - Sweet Lamb, Hafren a Meherin.

A dydd Sadwrn, fe fydd cymal Maesyfed yn dychwelyd am y tro cynta' ers 11 mlynedd.

Erbyn pnawn Sul, fydd Loeb yn gobeithio am drydydd llwyddiant o'r bron yng Nghymru wrth i'r ras orffen ym Mharc Margam.

Wrth i'n sgwrs orffen ma' un o dîm Citroen yn atgoffa Loeb bod ganddo ryw hanner awr yn sbâr cyn i fod e yn ôl ar yr heol. Be mae e'n ei wneud? Chwarae fel ei hunan ar y PlayStation gan golli rheolaeth dwywaith mewn llai nai munud

Sebastien, tu ôl yr olwyn rwyt ti'n arwr! Yn y byd cyfrifiadurol, dwyt ti ddim gwell na fi.


chwaraeon



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý