Fe amserodd Button ei benderfyniad i ddefnyddio teiars gwlyb yn berffaith wrth i'r glaw amharu ar y ras llawn digwyddiad yn Melbourne. Sebastian Vettell oedd yn arwain yn gyfforddus yn y Red Bull cyn i'w frêc fethu yng nghanol y ras. Robert Kubica yn y Renault oedd yn ail gyda gyrwyr Ferrari Felipe Massa a Fernando Alonso yn dilyn. Fe orffennodd Lewis Hamilton yn chweched. Canlyniad Grand Prix Awstralia 1. J Button 2. R Kubica 3. F Massa 4. F Alonso 5. N Rosberg 6. L Hamilton 7. V Liuzzi 8. R Barrichello 9. M Webber 10. M Schumacher
|