Sebastian Vettel yn y Red Bull oedd wedi arwain yn gynnar yn y ras ond fe fanteisiodd Alonso wedi i'r Almaenwr brofi trafferthion gyda'i beiben ecsôst. Felipe Massa, cyd yrrwr Alonso gyda Ferrari, oedd yn ail gyda Lewis Hamilton yn hawlio'r trydydd safle. Gorffennodd Vettel yn bedwerydd o flaen gyrrwyr Mercedes Nico Rosberg a Michael Schumacher, oedd yn dychwelyd i Fformiwla Un wedi tair blynedd. Seithfed oedd pencampwr y llynedd Jenson Button, oedd yn cynrychioli tim McLaren am y tro cyntaf.
|