|
Newidiwyd diwethaf:
17
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm TrinidadÌýa Tobago ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp B: v Sweden 10 Mehefin 1700 BST,ÌýDortmund
v Lloegr 15 Mehefin 1700 BST, Nuremburg
v Paraguay 20 Mehefin 2000 BST,ÌýKaiserslautern
Roedd Trinidad a Tobago eisoes wediÌýchwarae 18 gêm yn erbyn Gweriniaeth Dominica, Ynysoedd St Kitts a Nevis, YnysoeddÌýSt Vincent a'r Grenadines, Mecsico, Costa Rica, Guatemala, PanamaÌýac America cyn gorfod herio Bahrain mewn gêm ail gyfle.
Mae'n anodd credu bod unrhyw dîm wdi chwarae mwy o gemau ar y ffordd i'r Almaen, ac amddiffynnwr Wrecsam, Dennis Lawrence, oedd yr arwr wrth sgorio'r gôl holl bwysig yn Manama, Bahrain, oedd yn sicrhau eu lle yn Yr Almaen.
A chyda llond tîm o chwaraewyr o gynghreiriau is Lloegr a'r Alban, mae'n debyg mai Trinidad a Tobago fydd 'ail dîm' nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed Ynysoedd Prydain.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Trinidad a Tobago yng Nghwpan y Byd
Sêr y tîm: Yn amlwg, mae'r cawr o amddiffynwr, Dennis Lawrence, yn adnabyddus i ni'r Cymry gan ei fod yn chwarae i Wrecsam, ond bydd yr ymosodwr, Dwight Yorke a'r golwr, Shaka Hislop, yr un mor gyfarwydd.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Bydd Trinidad a Tobago yn awyddus i efelychu camp Jamaica ac ennill un o'u gemau, ond mae gen i ofn mai dyna'r gorau gallent obeithio ei wneud ar eu hymddangosiad cyntaf.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|