Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýParagwai ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp B: v Lloegr 10 Mehefin 1400 BST, Frankfurt
v Sweden 15 Mehefin 2000 BST, Berlin
v Trinidad a Tobago 20 Mehefin 2000 BST,ÌýKaiserslautern Ìý
Llwyddodd Paragai i gael y dechrau gorau posib i'w gemau rhagbrofol yn Ne America, gan eistedd ar frig y grŵp am gyfnod hir.
Ond, wedi rhediad tychinebus oedd yn cynnwys crasfa yn erbyn Ecuador a Brasil yn gynnarÌýyn 2005, bu rhaid i'w rheolwr, Anibal "Mano" Ruiz, ychwanegu sawl wyneb newydd i sicrhau eu bod yn gorffen yn bedwerydd yn y grŵp.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Nid yw eu record yng Nghwpan y Byd ymysg y mwyaf disglair, gan nad ydynt erioed wedi mynd heibio'rÌýail rownd.
Ym 1986, colli 3-0 yn erbyn Lloegr oedd eu hanes yn yr ail rownd, ym 1998 roedd angen amser ychwanegol arÌýFfrainc i'w trechu yn yr ail rownd, ac yna yn 2002, cafwyd gôl yn y funud olaf gan Oliver Neuville i sicrhau bod Yr Almaen yn eu trechu.
Sêr y tîm: Mae Roque Santa Cruz wedi bod yn aelod o'r garfan genedlaethol ers yn 17-mlwydd-oedÌýac er ei fod wedi dioddef anafiadau, mae'n debyg mai ymosodwr Bayern Munich fydd yn arwain llinell flaen Paragwai yn Yr Almaen.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Gyda Sweden a Lloegr yn yr un grŵp, ac ar sail eu perfformiad yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Gwyl Dewi, go brin bydd Paragwai yn llwyddo i gyrraedd yr ail rownd am y trydedd pencampwriaeth yn olynol.
|