Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 13 Gorffennaf 2006
Zidane yn ymddiheuro, ond nid yw'n edifar

Mae Zinedine Zidane wedi ymddiheuro am benio amddiffynnwr Yr Eidal, Marco Materazzi yn rownd derfynol Cwpan y Byd.

Zinedine Zidane

Ond nid yw cyn gapten Ffrainc yn edifar gwneud hynny, gan honni mewn cyfweliad teledu i'r Eidalwr ei bryfocio drwy sarhau ei fam a'i chwaer.

"Yr oedd hi'n anesgusodol. Rwy'n ymddiheuro," meddai Zidane mewn cyfweliad teledu.

"Ond ni allwn ddifaru'r hyn wnes i oherwydd bydde hynny'n golygu yr oedd yn iawn i ddweud yr hyn ddywedodd."

Mewn ymateb, roedd Materazzi yn gwadu ei fod wedi dweud unrhywbeth am fam Zidane.

"Ni soniais unrhywbeth am grefydd, gwleidyddiaeth neu hiliaeth," meddai Materazzi.

"Gwnes i ddim sarhau ei fam. Collais fy mam pan oeddwn yn 15 mlwydd oed ac rwy'n emosiynol bob tro rwy'n son amdani.

"Yn naturiol nid oedd yn ymwybodol fod ei fam yn yr ysbyty, ond rwy'n dymuno'n dda iddi.

"Mae Zidane yn arwr i mi ac wedi ei edmygu erioed."

Gwelodd Zidane y cerdyn coch am benio Materazzi yn ystod amser ychwanegol y rownd derfynol yn Berlin.

Dywedodd Zidane, sydd wedi ymddeol o bêl-droed wedi'r rownd derfynol ddydd Sul, y dylai Materazzi gael ei gosbi am ei ran yn y digwyddiad.

Bydd Fifa yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ac mae'r llywydd Sepp Blatter wedi dweud y gall Zidane golli gwobr y Bêl Aur.

Dywed Materazzi na ddylai Zidane golli'r anrhydedd er gwaetha'r digwyddiad ddydd Sul.

Mae Fifa wedi cadarnhau y bydd Materazzi a Zidane yn wynebu panel disgyblu ar Orffennaf 20.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý