Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp B: v Paragwai 10 Mehefin 1400 BST, Frankfurt
v Trinidad a Tobago 15 Mehefin 1700 BST, Nuremburg
v Sweden 20 Mehefin 2000 BST, Cologne
Llwyddodd Lloegr i sicrhau eu lle yn Yr Almaen wrth orffen ar frig grŵp rhagbrofol oedd yn cynnwys Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ond mae peryg i'w paratoadau ar gyfer Yr Almaen gael eu drysu oherwydd y sylwadau dadleuol a wnaed gan eu rheolwr Sven Goran Eriksson mewn papur newydd y ddiweddar. Hanes yng Nghwpan y Byd: Gyda chymorth y llumanwr o Azerbaijan, llwyddodd Lloegr i gipio Tlws Jules Rimet yn Wembley ym 1966.
Ond ers hat-trick Geoff Hurst a sylw treiddgar Kenneth Wolstenhome, nid yw'r Saeson wedi cyrraedd y rownd derfynol o unrhyw bencampwriaeth.
Daeth Bobby Robson a dagrau Gazza o fewn trwch blewyn i'r rownd derfynol yn Yr Eidal ym 1990, ac ym 1986 (v. Ariannin) a 2002 (v. Brasil), collodd Lloegr yn rownd yr wyth olaf yn erbyn y tîm aeth ymlaen i godi'r gwpan.
Sêr y tîm: Er gwaethaf ei anaf, bydd Wayne Rooney yn gobeithio chwarae rhan yn Yr Almaen ac adeiladu ar ei berfformiadau ym Mhortiwgal yn ystod Ewro 2004 a sicrhau ei le fel un o wir sêr y byd pêl-droed.
A thra bo David Beckham eisoes yn enwog ym mhob cwr o'r byd, bydd yn fwy penderfynol nag erioed o arwain Lloegr ymhellach na rownd yr wyth olaf.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Gyda'r cryfder sydd yn bodoli yng ngharfan Lloegr fe ddylai'r Saeson gyrraedd rownd yr wyth olaf heb unrhyw broblem ... ond mae'n debygol bydd Brasil yn eu disgwyl yn y rownd gynderfynol.
|