Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýY SwistirÌýar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp G: v Ffrainc 13 Mehefin 1700 BST,ÌýStuttgart
v Togo 19 Mehefin 1400 BST, Dortmund
v De Corea 23 Mehefin 2000 BST, Hanover
Mae hyfforddwr Y Swistir, Kobi Kuhn, wedi dewis gadael un o'i brif sêr allan o'r garfan fydd yn teithio i'r Almaen.
Nid oedd lle i Hakan Yakin, dreuliodd gyfnod anhapus â Stuttgart yn y Bundesliga cyn ymuno â Young Boys Berne, ac roedd siom i'w frawd, yr amddiffynnwr, Murat Yakin, hefyd, sydd yn colli'r bencampwriaeth ag anaf.
Ac wedi Benjamin Huggel gael ei wahardd am chwe gêm gan Fifa am ei ran yn y ffraeo ar ddiwedd eu gêm ail gyfle yn Nhwrci, a chyda'u prif sgoriwr, Alex Frei, yn cael llawdriniaeth yn ddiweddar, nid yw eu paratoadau wedi bod ymysg y gorau.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Mae'r Swistir wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar dri achlysur - 1934, 1938 a 1954 - ond maent wedi methu â chyrraedd y rowndiau terfynol ers 1994.
Sêr y tîm: Bydd yn hanfodol bwysig bod Alex Frei, yn holliach ar gyfer y bencampwriaeth os yw'r Swistir am danio. Cafodd ymosodwr Rennes, sydd wedi rhwydo 23 gôl ryngwladol, lawdriniaeth ar ei goes ym mis Mawrth.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Mae'r Swistir yn ffodus eu bod mewn grŵp cymharol hawdd, ac er bod trechu De Corea a Togo yn debygol o sicrhau eu lle yn yr ail rownd, bydd camu ymhellach yn fwy o broblem.
|