Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp G: v Y Swistir 13 Mehefin 1700 BST, Stuttgart
v De Corea 20 Mehefin 1400 BST, Leipzig
v Togo 23 Mehefin 2000 BST, Cologne
Bu rhaid i gefnogwyr Les Bleus aros tan y funud olaf cyn i'w tîm sicrhau eu lle yn Yr Almaen wedi grŵp rhagbrofol hynod o dynn oedd yn cynnwys Iwerddon, Israel a'r Swistir.
Ac wedi dod allan o'r het i wynebu'r Swistir yn Yr Almaen, rhybuddiodd yr hyfforddwr, Raymond Domenech, bod hyn yn beth drwg gan fod y ddau dîm yn adnabod ei gilydd yn dda iawn erbyn hyn.
Ond y farn gyhoeddus yn Ffrainc yw bod y grŵp, sydd hefyd yn cynnwys Togo a De Corea, yn un hawdd dros ben, yn enwedig o gofio'r talent sydd yng ngharfan Les Bleus.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Roedd Ffrainc yn un o'r pedwar tîm Ewropeaidd gymrodd rhan yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan y Byd yn Wrwgwái ym 1930.
A chawsant y fraint o gynnal pencampwriaeth 1938, lle cyrhaeddodd y tîm rownd yr wyth olaf cyn colli yn erbyn y pencampwyr, Yr Eidal.
Cafwyd cyfnod bendigedig yn ystod yr 1980au wrth i Michelle Platini arwain y tîm i'r bedwerydd safle ym 1982 a'r drydydd safle ym 1986.
Ond, gyda'r bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain ym 1998, llwyddodd Zinedene Zidane a'i gyd chwaraewyr i gipio'r tlws.
Sêr y tîm: Lle mae dyn yn dechrau? Thierry Henry, David Trezeguet, Sylvian Wiltord, Louis Saha, Claud Makelele, Lilan Thuram, William Gallas ...
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Fe ddylai Ffrainc gamu heibio'r ail rownd yn gymharol hawdd, ond mae'n debygol o fod yn gêm gyffrous yn rownd yr wyth olaf lle maent yn debygol o herio'r Eidal.
|