Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýDe CoreaÌýar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp G: v Togo 13 Mehefin 1400 BST,ÌýFrankfurt
v Ffrainc 18 Mehefin 2000 BST, Leipzig
v Y Swistir 23 Mehefin 2000 BST, Hanover
Bydd De Corea yn ei chael yn anodd i efelychu camp 2002 pan lwyddodd y tîm iÌýgyrraedd y rownd gynderfynol ar eu tomen eu hunain.
Ers eu llwyddiant pedair blynedd yn ôl, mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth wrth i olynydd Guus Hiddink, Humberto Coelho, ymddiswyddo wedi llai na blwyddyn wrth y llyw yn dilyn gêm ddi-sgôr â'r Maldives.
Llwyddodd yr Iseldirwr, Jo Bonfrere, i sicrhau lle De Corea yn Yr Almaen, ond cafodd ei ddiswyddo wedi'r tîm orffen yn olaf ym Mhencampwriaethau Dwrain Asia.
Felly, gyda llai na naw mis i fynd cynd y rowndiau terfynol, cafodd cyn reolwr Ranger a'r Iseldiroedd, Dick Advocaat, ei benodi.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Mae De Corea wedi ymddangos yng Nghwpan y Byd fwy o weithiau nag unrhyw dîm arall o Asia - dyma fydd eu seithfed ymddangosiad.
Ond cynÌýy llwyddiant ar eu tomen eu hunain yn 2002, nid oedd De Corea wedi ennill yr un o'u 14 gêm yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Sêr y tîm: Mae Park Ji-Sung yn un o chwaraewyr enwocaf Asia, yn enwedig ers i'r chwaraewr canol cae ymuno â Manchester United o PSV Eindhoven ar ddechrau'r tymor.
Ac mae arwr 2002, y golwr Lee Woon-Jae, oedd yn gyfrifol am eu buddugoliaeth dros Sbaen ar giciau o'r smotyn yn rownd yr wyth olaf, yn parhau i fod yn gawr rhwng y pyst.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Mae gan De Corea gyfle da i gyrraedd yr ail rownd ond bydd angen iddynt wneud rhywbeth nad ydynt erioed wedi ei wneud o'r blaen, sef ennill gêm dramor.
|