Paraguay aeth ar y blaen wedi 25 munud, gyda Brent Sancho yn rhoi'r bêl yn rhwyd ei hun.
Daeth ail gôl Paraguay gyda phum munud yn weddill pan sgoriodd Nelson Cuevas.
Yn eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd, gorffennodd Trinidad a Tobago ar waelod Grŵp B heb sgorio'r un gôl ond wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sgôr terfynol - Paraguay 2-0 Trinidad a Tobago.
86 mun:Gôl - Paraguay 2-0 Trinidad a Tobago.
Mae Nelson Cuevas yn sicrhau'r fuddugoliaeth i Paraguay.
Hanner amser - Paraguay 1-0 Trinidad a Tobago.
25 mun:Gôl - Paraguay 1-0 Trinidad a Tobago.
Brent Sancho yn rhoi'r bêl yn rhwyd ei hun.
TIMAU
Paraguay: Bobadilla, Nunez, Gamarra, Caceres, Caniza, Barreto, Acuna, Paredes, Dos Santos, Santa Cruz, Valdez.
Eilyddion: Bonet, Cabanas, Cuevas, Da Silva, Gavilan, Gomez, Lopez, Manzur, Montiel, Riveros, Toledo, Villar.
Trinidad a Tobago: Jack, Avery John, Sancho, Lawrence, Birchall, Whitley, Edwards, Theobald, Glen, Stern John, Yorke.
Eilyddion: Andrews, Charles, Cox, Gray, Hislop, Ince, Jones, Latapy, Samuel, Scotland, Wise, Wolfe.
Dyfarnwr: Roberto Rosetti (Yr Eidal).