Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith wrth i Phillipe Lahm grymanu'r bêl i gornel ucha'r rhwyd o gornel y cwrt cosbi wedi chwe munud.
Ond roedd Costa Rica'n gyfartal o fewn chwe munud wrth i gyn ymosodwr Derby County, West Ham a Manchester City, Paolo Wanchope, guro'r trap camsefyll i rwydo heibio Jens Lehmann.
Daeth y tîm cartref yn ôl â dwy gôl gan Miroslav Klosse, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 28-mlwydd-oed, naill ochr i'r egwyl.
Ac er i Paolo Wanchope gasglu ei ail gôl i roi llygedyn o obaith i'r Ticos, rhwydodd Torsten Frings â tharan o ergyd i sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Jurgen Klinsmann.
Ond bydd cyn ymosodwr Spurs yn ymwybodol iawn bod gemau llawer mwy anodd yn wynebu ei dîm gan fod Costa Rica wedi rhoi digonedd o le i chwaraewyr canol cae'r Almaen.
Ac roedd hynny'n amlwg wrth i Danny Fonseca ganiatáu Lahm i grymanu'r bêl yn hyfryd i gornel uchaf gôl Jose Porras.
Gyda'r Almaenwyr yn bygwth sgorio gyda phob ymosodiad cafwyd sioc i'r cefnogwyr cartref wrth i Wanchope amseru ei rediad yn berffaith i rwydo heibio Lehmann wedi 12 munud.
Ond dim ond am bum munud oedd y dorf yn dawel wrth i Klose, oedd yn benderfynol o ddathlu ei ben-blwydd â buddugoliaeth, rwydo o groesiad isel Bernd Schneider.
Fe ddylai'r gwŷr o Ganol America fod wedi dod yn gyfartal am eildro ar ddechrau'r ail hanner ond methodd Fonseca â rheoli ei beniad wedi iddo gael ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi.
Ac er i'r Almaen reoli'r meddiant a'r chwarae, roedd eu hamddiffyn yn fregus pob tro roedd y Ticos yn ymosod.
Er hynny, dyblwyd mantais y tîm cartref wedi 61 munud wrth i Klose ymateb yn gynt na neb wedi Porras arbed ei beniad er mwyn rhwydo ei ail gôl.
Ond gwrthododd Costa Rica ag ildio wrth i Wanchope rwydo ei ail gôl o bas gelfydd Walter Centeno a sicrhau rhai munudau nerfus i Klinsmann.
Ond Frings gafodd y gair olaf â gôl oedd hyd yn oed yn well na gôl agoriadol Lahm wrth iddo daro taran o ergyd o 30 llath grymanodd i gornel ucha'r rhwyd.
TIMAU
Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Metzelder, Lahm,
Schweinsteiger, Frings, Borowski, Schneider, Podolski, Klose.
Eilyddion: Asamoah, Ballack, Hildebrand, Hitzlsperger, Huth, Jansen,
Kahn, Kehl, Neuville, Nowotny, Odonkor.
Costa Rica: Porras, Marin, Umana, Gonzalez, Martinez, Fonseca, Solis, Centeno, Sequeira, Gomez, Wanchope.
Eilyddion: Alfaro, Azofeifa, Badilla, Bernard, Bolanos, Drummond, Hernandez, Mesen, Nunez, Rodriguez, Saborio, Wallace.
Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)