> adroddiad y gêm
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sgôr Terfynol Yr Almaen 4-2 Costa Rica
87 mun: Gôl - Yr Almaen 4-2 Costa Rica
Cafwyd taran o ergyd gan Torsten Frings o 30 llath sydd yn siŵr o sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref yn y gwres ym Munich.
79 mun: Arbedodd Jose Porras yn wych o beniad Per Mertesacker o fewn y cwrt bach.
73 mun: Gôl - Yr Almaen 3-2 Costa Rica
Cafwyd llygedyn o obaith i'r tîm o Ganol America wrth i Paolo Wanchope gasglu pas gelfydd Walter Centeno i rwydo ei ail gôl yntau.
71 mun: Mae Jurgen Klinsmann wedi penderfynu dod â chwaraewr canol cae amddiffynnol i'r maes wrth iddo eilyddio Tim Borowski a gyrru Sebastian Kehl i'r maes.
61 mun: Gôl - Yr Almaen 3-1 Costa Rica
Llwyddodd Miroslav Klosse i rwydo ei ail gôl er i Jose Porras arbed ei gynnig cyntaf yn wych. Ymosodwr Werder Bremen oedd y cyntaf i ymateb i'r bêl rydd i ymestyn mantais y tîm cartref.
54 mun: Llwyddodd Danny Fonseca i gyrraedd pas o gic gosod unwaith eto, ond y tro hyn cafodd Costa Rica eu cosbi am rwystro amddiffynwyr Yr Almaen
51 mun: Cododd Torsten Frings y bêl i mewn i'r cwrt cosbi o gic gornel Bastian Schweinsteiger ond methodd Lukas Podolski â chasglu'r bas.
48 mun:Llwyddodd Danny Fonseca i ganfod ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi o gic gornel ond yn ffodus i'r tîm cartref aeth ei beniad ymhell heibio'r postyn.
Hanner Amser: Yr Almaen 2-1 Costa Rica
43 mun: Gwibiodd cic gornel Bastian Schweinsteiger ar draws wyneb y gôl gyda Miroslav Klosse yn methu â chysylltu â'r bêl cyn i Christoph Metzelder daro'r bêl ymhell heibio'r postyn.
39 mun: Tarodd Lukas Podolaski gic rydd o 30 llath dros y trawst wrth i'r Almaen geisio ymestyn eu mantais.
37 mun: Roedd dihangfa i'r Almaen wrth i Paolo Wanchope gasglu'r bêl ar ochr y cwrt cosbi, ond cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei luman i ddynodi ei fod yn camsefyll.
34 mun: Mae'r Almaen yn dechrau gosod eu stamp ar y gêm gan reoli'r chwarae a'r meddiant - yn wir, yr unig beth mae golwr Yr Almaen, Jens Lehmann, wedi gorfod ei wneud hyd yma yw casglu'r bêl o gefn y rhwyd wedi gôl Paolo Wanchope.
30 mun: Mae amddiffyn Costa Rica yn rhoi gormodedd o le i chwaraewyr canol cae'r Almaen. Mae Bernd Schneider a Bastian Schweinsteiger yn cael modd i fyw i lawr yr esgyll
22 mun: Er yr holl goliau, ni fydd y naill reolwr na'r llall yn rhy hapus â pherfformiad ei dîm hyd yma gan fod y pasio'n llac a'r cyffyrddiadau'n ddiog.
17 mun: Gôl - Yr Almaen 2-1 Costa Rica
Dathlodd Miroslav Klosse ei ben-blwydd yn 28 ag ail gôl i'r Almaenwyr. Llwyddodd Bastian Schweinsteiger i chwarae pas gelfydd ar draws y cwrt chwech lle'r oedd Klosse yn disgwyl i basio'r bêl i'r rhwyd.
12 mun: Gôl - Yr Almaen 1-1 Costa Rica
Cadwodd Paolo Wanchope ei ben wrth guro'r trap camsefyll o bas Ronald Gomed ac ergydiodd y bêl heibio Jens Lehmann i ddod â Costa Rica'n gyfartal.
Er bod amddiffynwyr Yr Almaen yn gandryll â'r dyfarnwr cynorthwyol, mae lluniau teledu'n profi nad oedd Wanchope yn camsefyll.
9 mun: Derbyniodd Miroslav Klosse bas Bastian Schweinsteiger yn y cwrt cosbi ond llwyddodd golwr Costa Rica, Jose Porras, i arbed yn ddewr wrth draed ymosodwr Yr Almaen.
6 mun: Gôl - Yr Almaen 1-0 Costa Rica
Llwyddodd Philipp Lahm i grymanu'r bêl yn hyfryd o ochr chwith y cwrt cosbi i gornel dde'r rhwyd i rwydo gôl agoriadol Cwpan y Byd 2006.
3 mun: Crafodd Torsten Frings y trawst ag ergyd o bell.
NEWYDDION
Ni fydd capten Yr Almaen, Michael Ballack, yn chwarae yn erbyn Costa Rica er iddo ddweud ei fod wedi gwella o anaf i'w goes.
Mae'r rheolwr, Jurgen Klinsmann, wedi dewis rhoi hoe i chwaraewr canol cae Chelsea gan ddewis Tim Borowski yng nghanol cae.
Bernd Schneider sydd yn arwain Yr Almaen i'r maes yn absenoldeb Michael Ballack ac mae'r tensiwn yn amlwg ar wynebau Paolo Wanchope a'i gyd chwaraewyr o Costa Rica wrth iddynt gamu i'r maes sydd bron yn llawn o Almaenwyr.
Mae un cornel bychan o'r Allianz Arena yn goch gyda chefnogwyr y gwÅ·r o Ganol America yn chwifio eu baneri.
TIMAU
Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Metzelder, Lahm,
Schweinsteiger, Frings, Borowski, Schneider, Podolski, Klose.
Eilyddion: Asamoah, Ballack, Hildebrand, Hitzlsperger, Huth, Jansen,
Kahn, Kehl, Neuville, Nowotny, Odonkor.
Costa Rica: Porras, Marin, Umana, Gonzalez, Martinez, Fonseca, Solis, Centeno, Sequeira, Gomez, Wanchope.
Eilyddion: Alfaro, Azofeifa, Badilla, Bernard, Bolanos, Drummond, Hernandez, Mesen, Nunez, Rodriguez, Saborio, Wallace.
Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)