|
Newidiwyd diwethaf:
09
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Costa Rica ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp A: v Yr Almaen 09 Mehefin 1700 BST, Munich
v Ecuador 15 Mehefin 1400 BST, Hamburg
v Gwlad Pwyl 20 Mehefin 1500 BST, Hanover
Mae Costa Rica yn ffyddiog o allu creu sioc yn Yr Almaen, er iddynt ddod allan o'r het yn yr un grŵp â'r tîm cartref.
Nid yw'r Los Ticos erioed wedi herio'r Almaen, maent wedi colli ar y ddau achlysur iddynt herio Gwlad Pwyl ac unwaith erioed maent wedi llwyddo i drechu Ecuador.
Cymrodd Alexandre Guimaraes yr awenau am yr ail dro yng nghanol y gemau rhagbrofol wrth i'r tîm orffen yn drydydd yng ngrŵp rhagbrofol Gogledd America a'r Carîbî.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Costa Rica i gyrraedd yr ail rownd yng Nghwpan y Byd 1990, y tro cyntaf erioed iddynt gyrraedd y bencampwriaeth, wedi iddynt drechu'r Alban a Sweden.
Yn 2002 methodd Los Ticos â chamu ymlaen gan orffen â gwahaniaeth goliau gwaeth na Thwrci yn y grŵp agoriadol.
Sêr y tîm: Paulo Wanchope yw'r chwaraewr enwocaf i ddod o Costa Rica, ac ef yw prif sgoriwr Los Ticos ac, wedi cyfnodau â Derby County, West Ham a Manchester City yn Lloegr a Malaga yn Sbaen, mae Wanchope yn chwarae i glwb Al Gharfa yn Qatar.
Walter Centeno sydd yn rheoli'r chwarae yng nghanol cae i Costa Rica, ac er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i yrfa â chlwb Saprissa yng Nghosta Rica, cafodd dymor ag AEK Athens yn 2002/03.
Barn Â鶹Éç Cymru'r Byd: Nod Costa Rica fydd cyrraedd yr ail rownd a bydd eu hail gêm o'r grŵp yn erbyn Ecuador yn holl bwysig os ydynt am gyflawni'r gamp. Ìý Ìý
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|