Grŵp mwya'r sîn amgen yn yr 80au a 90au fu'n gyfrifol am greu cerddoriaeth Gymraeg mwya anghenrheidiol yr ugeinfed ganrif.
Efengyl Roc Cymraeg
Yn ôl Gruff Rhys, cerddoriaeth Datblygu yw'r efenygl roc Cymraeg. Roedd y grŵp yn diffinio eu hunain fel "non-hick, non conforming non-conformists".
Ers i'r grŵp chwalu yn 1995, mae academyddion a newyddiadurwyr wedi sgrifennu am bwysigrwydd eu dylanwad ar ddiwylliant Cymru. Ail-ryddhawyd albyms unigryw fel Wyau (1988), Pyst (1990) a Libertino (1993), ac aeth y Super Furry Animals â fersiwn newydd o'r clasur Y Teimlad i'r 20 Uchaf Prydeinig ar y record Mwng yn 2000.
Tro ar ôl tro yn eu gyrfa, llwyddodd Datblygu i greu gwaith efo cymeriad unigryw oedd yn mynnu bod y gwrandawr yn ystyried pa ochr o'r ffens oedden nhw eisiau sefyll.
Ffurfiwyd y grŵp nol yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Jones, bechgyn ysgol o Aberteifi, efo Pat Morgan yn ymuno yn 1984.
Yn ôl David, "Pan o'n i'n ifancach yn yr wythdegau roedd fy mhen i fel 'pressure cooker', o'n i'n ysgrifennu caneuon trwy'r amser ac yn teimlo fel 'outsider' yn teimlo bod fi ddim yn rhan o gymdeithas'.
John Peel
Nôl yn yr 80au roedd y sylw i'r grŵp oddi fewn i Gymru yn bell o fod yn gefnogol, gydag agwedd herfeiddiol y grŵp yn llwyddo i elyniaethu elfennau ceidwadol y sîn. Ar yr un pryd, roedd DJ enwoca'r byd - John Peel - yn datgan mai cerddoriaeth Datblygu oedd yr ysgogiad gore i unrhywun i ddysgu'r iaith Gymraeg.
Roedd gallu Datblygu i fod yn feirniadol o realiti y byd Cymraeg, yn ddi-flewyn ar dafod, law yn llaw efo'r gallu i greu cerddoriaeth gwbl unigryw oedd yn denu clod a chefnogeth o bob cwr, yn un o rinweddau pwysica'r grŵp.
Etifeddiaeth
Er ei fod wedi teimlo ar wahân ar y pryd, erbyn heddiw mae talent cerddorol a barddonol cwbl unigryw David R Edwards a'r grŵp yn cael ei gydnabod fel etifeddiaeth artistig pwysica'r cyfnod. Yn wir, i'r rhai sy'n dilyn y sîn roc Gymraeg, David yw Gwir Tywysog Cymru a chynnyrch Datblygu yw cerddoriaeth mwya ysbrydoledig ein diwylliant roc.
Fel ôl-nodyn i hanes y grŵp, fe ail-ymunodd David a Pat â'i gilydd yn 2008 i recordio un cân newydd, Cân y Mynach Modern, i ddathlu rhyddhau CD o sesiynau Radio 1 recordiwyd y grŵp ar gyfer sioe radio y diweddar John Peel.
Cyhoeddwyd hunangofiant David R Edwards gan Y Lolfa yn 2009. Yn 2012 bu Datblygu'n dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu gydag arddangosfa arbennig yng nghaffi Waffle, Caerdydd a chynlluniau am ffilm ddogfen am hanes y band yn yr Hydref.
Emyr Williams
Aelodau'r Band:
David Edwards: Llais, Gitar, Offerynnau
Pat Morgan: Bas, allweddellau, llais
T Wyn Davies: Synnau, offerynnau
Newyddion
Sesiynau Newydd!
Chwefror 22, 2006
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Adolygiadau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r Â鶹Éç
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Â鶹Éç Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.