Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band 芒 chanwr Celt, Martin Beattie, ym Methesda yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.
Ar 么l arwyddo i label Ankst, fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal. Pan chwalodd y gr诺p yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn Barcelona am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr Dafydd Ieuan o Roscefnhir i ffurfio'r Super Furry Animals. Aelodau'r gr诺p bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, Cian Ciaran, brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y git芒r a Guto Price ar y git芒r f芒s.
Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn 么l y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar 么l bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob c芒n yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar Ddydd G诺yl Ddewi bob blwyddyn.
Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Fuzzy Logic, yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y s卯n. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu 么l iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, Mwng, yn 2000.
Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.
Yn 2003 daeth Gruff n么l i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ng诺yl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn.
Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag Alun Tan Lan a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo. Ers hynny, mae wedi rhyddhau dau albwm unigol arall sef Candylion a Hotel Shampoo, ac mae wedi cydweithio gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill, yn ogystal a pharhau i recordio a rhyddhau sawl albwm gyda'r Super Furry Animals. Mi wnaeth hefyd ffurfio'r band Neon Neon, ac mae wedi sefydlu label recordio o'r enw Irony Bored, sef y label wnaeth ryddhau albwm cyntaf Cate Le Bon.
Ym mis Hydref 2011, cyhoeddwyd mai Rhys oedd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg newydd am ei albwm boblogaidd, 'Hotel Shampoo'.
Newyddion
Mercury i Neon Neon?
22 Gorffennaf 2008
Mae rhestr fer y 'Mercury Music Prize' newydd eu cyhoeddi, ag ymysg y 12 band / artist ar y rhestr, mae Neon Neon.
Taith Gruff Rhys
8 Rhagfyr 2006
Erthyglau
Gruff Rhys ar C2
20 Mawrth 2008
Gwrandewch eto ar y sgwrs arbennig rhwng Daf Du a Gruff Rhys am ei brosiect diweddaraf, Neon Neon.
麻豆社 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.