麻豆社

Sesiynau Newydd!

Euros Childs

Mae dau o gerddorion mwya' amlwg Cymru dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn 么l yn gweithio gyda'i gilydd a'ch cyfle cyntaf i glywed caneuon newydd Y Ffyrc fydd ar C2, Radio Cymru heno (nos Fercher 22 Chwefror).

Y Ffyrc yw prosiect newydd Mark Roberts a Paul Jones gynt o'r a Catatonia, ac mae'r ddau newydd recordio sesiwn stiwdio i C2 sydd yn cynnwys tair c芒n newydd sbon - Elwyn A'i Olwynion, Mae 'Na Le a Bylchau.

Gafodd Mark a Paul flwyddyn brysur llynedd ar 么l i label ryddhau , sef casgliad o ganeuon Y Cyrff rhwng 1983 a 1992. Bydd y ddau yn ymuno 芒 Huw Stephens yn y stiwdio nos Fercher am 10pm ar C2, Radio Cymru pan fydd y caneuon yn cael eu darlledu am y tro cyntaf.

Cyn hynny, ar nos Fawrth (Chwefror 21) gafodd sesiwn acwstig gan o Gorky's Zygotic Mynci ei darlledu ar raglen Lisa Gwilym ar C2. I glywed y sesiwn eto . Mae Euros, sydd newydd ryddhau ei albym unigol cyntaf Chops, yn dechrau ar daith o amgylch Cymru a Lloegr ar Fawrth 1af. am restr llawn o'i gigs.

I ddod yn fuan...
A fel tasa hynny ddim yn ddigon mae 'na fwy o newyddion arbennig - mae Llwybr Llaethog wedi recordio sesiwn i C2 gyda neb llai na Geraint Jarman a David R Edwards o .

Mae Geraint Jarman a Dave Datblygu yn cael eu hystyried fel rhai o'r cerddorion mwyaf dylanwadol erioed yng Nghymru, ac er bod Datblygu wedi dod i ben yng nghanol y 90au mae caneuon y gr诺p mor boblogaidd heddiw ag erioed. Mi fyddwn ni'n cyhoeddi dyddiad darlledu'r sesiwn yn fuan felly gwyliwch y 'gofod'!

I ddod hefyd dros yr wythnosau nesaf mae sesiynau gan Jakokoyak (Mawrth 6), Gareth Phillips (Mawrth 8), Gareth Bonello (Mawrth 20), Brigyn (Mawrth 27), Genod Droog, Overtones, MC Saizmundo, Plant Duw a llawer mwy.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.