Â鶹Éç

Bys ar y Pyls

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod â'r newyddion diweddaraf o'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...

APEL SION LLWYD AR GYFER YSGOL ROC (AVANTI)
Nos Iau diwethaf daeth Sion Llwyd fewn i drafod gyda Nia Medi i son am raglen newydd mae'n cynhyrchu ar gyfer S4C, sef Ysgol Roc. Mae nhw'n chwilio am aelodau newydd ar gyfer band roc newydd y sin roc - gan fod prinder ohonynt yng Nghymru, felly mi roedd o ar y rhaglen yn gwneud apel am bobl ifanc i gymryd rhan ac yn chwilio am bobl ifanc rhwng 11-16 oed sy'n chware dryms, gitar neu bas neu unryw offeryn yna cynnal clyweliadau ag fydda nhw'n cael mynd i'r Ysgol Roc. Cyfres o 8 pennod fydd yn mynd allan ar S4C cyn diwedd y flwyddyn. Mwy o fanylion: Cysylltwch a 01443 688500.

GALW AM WIRFODDOLWYR: OXJAM 2010
Mae'r elusen Oxfam yn galw ar fandiau, artisiad, hyfforddwyr ac unigolion i ddod at eu gilydd unwaith eto eleni ar gyfer Oxjam 2010. Ers 2006 mae dros 3,000 digwyddiad wedi cael eu cynnal yn enw Oxjam, gyda dros miliwn o bunoedd wedi ei godi ar gyfer yr achos. Mae'r elusen yn edrych am wirfoddolwyr i drefnu, i hyrwyddo ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol yn eu ardal lleol yn mis Hydref eleni. I gofrestru, ac am fwy o fanylion:

GWYL BAE CEMAES 2010 - LLANBADRIG VINEYARD, YNYS MON - Gorffenaf 16-17
Gwyl drwm a bas, dubstep, roc a metel yn Mae Cemaes, Ynys Mon, Gorffenaf 16-17 sy'n cynnwys llwyth o fandiau ac artistiad lleol yn cefnogi prif fandiau mwy adnabyddus y sin.

Nos Wener, Gorffenaf 16 - Drwm a bas / dubstep
Speculum
V.E.N.O.M.
Hoax
Dean Mack

Nos Sadwrn Gorffenaf 17 - Roc / Metel
Deaf Havana
Through Colouor
Seagull Knevil
Bastions

Tocyn penwythnos (nos Wener a Sadwrn): £15
Tocyn diwrnod: £8
Gweryslla penwythnos: £5

Mwy o fanylion:

LAWNSIAD ALBYM: DWI'N CARU CIWDOD - SENGLAU 2004-2010 - Gwener, Mehefin 4 - Maes Eisteddfod yr Urdd

Dwi'n Caru Cwidod
- Senglau 2004-2010 - albym amlgyfrannog artistiaid CIWDOD yn cael ei lawnsio prynhawn dydd Gwener, Mehefin y 4ydd rhwng 2pm a 4pm yn uned Bwrdd Yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd, Aberaeron. Nos Fawrth diwethaf daeth Gethin Evans o CIWDOD i fewn i'r stiwdio 'da Huw Stephens. Traciau gan bymtheg o artistiaid CIWDOD a ryddhawyd yn wreiddiol ar ffurf senglau gan CIWDOD rhwng blynyddoedd 2004 a 2010.

DRYMBAGO - Anian
POPPIES - Sex Sells
COFI BACH A TEW SHADY - Isho Bod yn Rhywun
BOB - Defaid
RADIO LUXEMBOURG - Lisa, Magic a Porfa
WYRLIGIGS - Rocars Cymraeg
PLANT DUW - Nerth Dy Draed
CLINIGOL - Eiliad
THREATMANTICS - Don't Care
DERWYDDON DR GONZO - Madrach
PLYCI - BlodauDYBL-L - Gesha
THE STILLETOES - Sownd
YR ODS - Defnyddio
CREISION HUD - Ffyrdd Gwyrdd
ZIMMERMANS - xxy

Bydd unrhyw elw o werthiant yr albym yn mynd yn ol fewn i gynnal mwy o brosiectau yr elusen Cerdd Cymunedol Cymru.


LAWNSIAD EP: Y PROMATICS - POLAR - Sadwrn, Mehefin 5 - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Y Promatics yn lawnsio eu EP newydd, Polar, yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Sadwrn yma, Mehefin y 5ed. Yn dilyn EP 100 Diwrnod Heb Liw (Enillydd EP Gorau'r Flwyddyn yn ngwobrau'r Selar 2009) ddaeth allan yn 2009. Caefnogaeth ar y noson gan Just Like Frank, Creision Hud (set acwstig) a Clockwork Radio. Mynediad: £6 Gigs Promatics dros y misoedd nesaf:
Nos Wener, Mehefin 11 - MORGAN LLOYD, Caernarfon
Nos Sadwrn, Mehefin 19 - Y FUWCH GOCH, Caerdydd (set DJ)
Nos Iau, Mehefin 24 - BUFFALO BAR, Caerdydd
Dydd Mercher, Awst 4 - MAES Y STEDDFOD, Glyn Ebwy
Nos Fercher, Awst 4 - MAES B, Steddfod Glyn Ebwy

LAWNSIAD ALBYM: RICHARD JAMES - WE WENT RIDING - Gwener, Mehefin 11 - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Yr albym, We Went Riding, sydd yn cynnwys ymddangosiadau gan Euros Chils a Cate Le Bon yn cael ei ryddhau Mehefin 21 ar label Gwymon. Gig lawnsio We Went Riding yn Clwb Ifor Bach, Caerydd, Gwener, Mehefin 11, gyda cefnogaeth yn dod gan The Gentle Good, Huw M a Huw Evans. Mynediad: £6 Mwy o fanylion:

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.