John Davies
Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.
Am flynyddoedd fe fu'n aelod o adran Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn warden Neuadd Pantycelyn.
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae cyfrolau ar hanes y teulu Bute a Chaerdydd, hanes y Â鶹Éç yng Nghymru a hefyd ei lyfr awdurdodol Hanes Cymru, a gyhoeddwyd gan Penguin yn Gymraeg ac yn Saesneg.