Abertawe
Taith gerdded o gwmpas lleoliadau ffilmio cyfresi Doctor Who a Torchwood ac llefydd yn ymwneud â bywyd y dramodydd Dylan Thomas a gafodd ei fagu yn ardal Uplands y ddinas.
Gellir cwblhau'r daith mewn llai na dwy awr. Mae dewis i gerdded ymhellach ar hyd y promenâd i Neuadd Brangwyn (cyfanswm o tua awr yn ychwanegol,) lle ffilmiwyd rhai o olygfeydd Torchwood. Mae maes parcio Parc Tawe yn gyfleus i'r daith hon, ar gael am ddim i gwsmeriaid am hyd at dair awr yn unig. Meysydd parcio eraill ar gael yn y ddinas.
Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.
-
1. Plantasia
Lleoliad ffilmio 'The Doctor's Daughter' (Doctor Who cyfres 4, pennod 6)
-
2. Canolfan Dylan Thomas
Hanes bywyd a gwaith y dramodydd cafodd ei fagu yn y ddinas
-
3. Stryd Adelaide ac adeilad yr Exchange
Lleoliad ffilmio 'The Unquiet Dead' (Doctor Who cyfres 1, pennod 3)
-
4. Sgwâr Dylan Thomas a'r Chwarter Arforol
Cerflun o Dylan Thomas a theatr sydd wedi ei henwi ar ei ôl
-
5. Neuadd Brangwyn
Lleoliad ffilmio Torchwood a Doctor Who (Opsiwn B yn unig)
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.