Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfal donc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý,Ìý,Ìý

Elin Meredith Elin Meredith | 11:55, Dydd Sadwrn, 9 Mehefin 2012

Wrth i wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon dynnu i'w therfyn a chystadlaethau'r prif seremonïau ddod i ben gyda choroni Prif Lenor yr ŵyl ddydd Gwener, mae'n werth nodi faint o'r prif enillwyr sydd wedi dod yn ail a thrydydd yn eu cystadlaethau o'r blaen cyn cyrraedd y brig.

Eleni, fel pob blwyddyn, mae 'na ganmol ar safon uchel y cystadlu ar lwyfan prifwyl yr Urdd, ac ar y cystadlaethau offerynnol yn enwedig, sydd i'w gweld yn codi a chodi bob blwyddyn a'r perfformiadau yn cyrraedd safon broffesiynol, yn ôl gwybodusion.

Ond tra mae'n cael ei dderbyn fod angen ymarfer caled a chyson i ddod â llwyddiant mewn chwarae offeryn cerdd, ac mewn datblygu'r llais, mae 'na ryw syniad rhamantus weithiau fod barddoni, 'sgwennu a chyfansoddi yn ryw ddawn gynhenid sy'n dod o unlle, ac mai'r 'awen' sy'n gyfrifol am gampweithiau llenyddol.

Efallai fod 'na wirionedd yn hynny, ond mae pob un o'r bobl ifanc sydd wedi ennill bri yn y pif seremonïau eleni wedi dangos eu bod nhw'n bobl sydd wedi gweithio'n galed i fireinio eu crefft a dyfalbarhau nes cyrraedd eu nod.

Tri chynnig i Gymro oedd hi i Aled Wyn Clark ddydd Llun oedd wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr yn 2010 a 2011 cyn dod yn gyntaf eleni. Soniodd sut roedd y feirniadaeth a gafodd yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ei ysgogi i ddal i drïo a soniodd sut roedd am barhau i astudio ei grefft er mwyn "cael gwared â'r gwallau ...".

Ddydd Mawrth, Nia Haf Jones oedd yn dweud bod ennill y Fedal i Ddysgwyr wedi bod yn uchelgais ganddi ers pum mlynedd ac, yn 15 oed, mae wedi ei gwireddu.

Roedd LlÅ·r Titus ddydd Mercher yn drydydd yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn 2011 (ac yn gyntaf yng ngystadleuaeth y Goron y flwyddyn honno hefyd) a dywedodd ei fod wedi gwrando ar y feirniadaeth a datblygu. Cafodd y cyngor i fod yn fwy uchelgeisiol meddai, a dyna a wnaeth.

Yna Gruffudd Antur a'r Gadair ddydd Iau: yn ail yn Llanerchaeron ddwy flynedd yn ôl ac yn "gwingo", meddai, wrth edrych yn ôl ar ei hen gerddi. Ac er ei fod yn ddim ond yn 20 oed, dywed ei fod wedi bod yn cynganeddu ers bron i ddeng mlynedd, ac yn darllen popeth all o er mwyn dysgu mwy am ei grefft.

A ddydd Gwener, cyflwynydd teledu a chantores adnabyddus, Anni Llŷn, yn wên o glust i glust wrth gael ei choroni'n Brif Lenor wedi iddi ddod yn drydydd y llynedd.

Dydy'r rhain ddim yn bobl sy'n rhoi i fyny a ddim chwaith yn bobl sy'n cymryd eu dawn yn ganiataol - maen nhw'n fodlon gweithio'n galed, yn fodlon trïo, ac yn fodlon 'methu' (er nad dyna'r gair mwyaf addas am lwyddo i ddod yn ail a thrydydd efallai), cyn trïo eto - a chyrraedd y nod.

Mae'n atgoffa rhywun o eiriau Samuel Beckett: Ever tried. Ever failed. No matter. Try again. Fail again. Fail better.

Neu yn Gymraeg, dyfal donc a dyrr y garreg.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.