Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pigion Prifwyl yr Urdd 2012

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Elin Meredith Elin Meredith | 13:33, Dydd Llun, 11 Mehefin 2012

Mae Eisteddfod yr Urdd drosodd am flwyddyn arall; y canu, cystadlu, canmol a'r cwyno wedi tewi.

Mae'n anffodus y bydd llawer yn cofio gŵyl 2012 am dagfeydd traffig ar ddechrau'r wythnos a thywydd erchyll ar ddiwedd yr wythnos. Efallai fod y ffigyrau ymweld wedi dioddef o'i herwydd, ond "di glaw ddim yn mynd i stopio'r Steddfod nachdi?" fel y dywedodd un cystadleuydd ar Radio Cymru ddydd Sadwrn, ac mi aeth y cystadlu yn ei flaen fel arfer.

Felly ar wahân i mwd, beth sy'n aros yn y cof? Oddi ar y llwyfan mawr, lle mae'r safon yn ddigwestiwn ac wedi cyrraedd uchelfannau eto eleni mae'n debyg - gwrandewch ar raglen pigion Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru i glywed yr uchafbwyntiau (ar gael tan ddydd Sul, 17 Meh 2012) - dyma ddetholiad o rai o'r pethau eraill a wnaeth argraff, nid mewn unrhyw drefn arbennig:

  • Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, yn dweud bod ei harhosiad yn nhref Caernarfon dros yr wythnos wedi ei hargyhoeddi pam y dylai'r Eisteddfod aros yn ŵyl deithiol: "Rwy'n argyhoeddedig," meddai "y dylai pob plentyn yng Nghymru dreulio amser yng Nghaernarfon i glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol ar y strydoedd."
  • Llywydd y Dydd ddydd Mercher, Gari Wyn, yn dweud nad oedd ei genhedlaeth o, "y rhai sy'n 50 a throsodd", wedi gwerthfawrogi na gwneud digon i feithrin arweinwyr ymysg pobl ifanc: "Rydw i'n teimlo bod fy nho i yn cael gormod o sylw fel arweinwyr ym myd gwleidyddiaeth a'r cyfryngau a bod angen inni sylweddoli mai nhw [pobl ifanc] ydi ein dyfodol ni," meddai gan fynd ymlaen i ddweud ei fod eisiau gweld pobl ifanc yn arwain pob achlysur yn Eisteddfod yr Urdd.
  • Anerchiad teimladwy Malcolm Allen fel Llywydd y Dydd dydd Iau yn dweud ei fod yn "derbyn yr anrhydedd ar ran pobl gyffredin y fro." Yn hogyn ifanc yn Neiniolen, doedd o ddim yn llenor nac yn llefarwr, ac yn fawr o gantor, meddai, ond â'r bêl gron wrth ei draed, roedd "yn dod yn fyw", ac mi gafodd o gyfle, meddai. "Mae 'na rywbeth arbennig ym mhob plentyn, dim ond iddyn nhw gael y cyfle," ychwanegodd.
  • Stiwardiaid arwrol y meysydd parcio b'nawn Gwener, yn fwd o'u coron i'w sawdl ac yn wlyb at eu crwyn ynghanol y dilyw, yn helpu pobl i adael y maes drwy alw am dractor neu wthio'r ceir o'r mwd eu hunain, ac yn dal i lwyddo i wenu a sgwrsio'n glên.
  • Huodledd y bobl ifanc a enillodd y prif wobrau llenyddol a chyfansoddi yn siarad mor ffres a difyr am eu gwaith a'u syniadau.
  • Y pwyslais ar yr Urdd fel mudiad iaith gan wahanol sefydliadau ac unigolion oedd yn siarad â'r wasg oedd yn dweud dro ar ôl dro pa mor bwysig ydi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, dim ots ym mha faes, "trwy gyfrwng y Gymraeg" - boed yn chwaraeon, coginio, canu, rapio, canŵio ... neu rowlio mewn mwd (sy'n un o weithgareddau swyddogol gwersyll yr Urdd, Llangrannog, mae'n debyg).
  • Sylweddoli, yn sgîl ymweliad Leighton Andrews â'r maes ddydd Iau i hyrwyddo menter i daclo tlodi diwylliannol, mai canran fechan iawn o blant Cymru sydd yn cael cyfleoedd o'r fath, mewn unrhyw iaith, a bod pawb oedd yno yr wythnos hon mewn lleiafrif lwcus iawn.
  • Afiaith a hiwmor dau ddisgybl o Lambed a Chrymych yn sôn am eu taith gyda 19 o ddisgyblion eraill i Batagonia - roedd pawb oedd yn gwrando yn y gynhadledd i'r wasg eisiau mynd efo nhw!
  • Y gwneuthurwr clocsiau Trefor Owen yn dangos y coed, oedd i'w gweld o'r maes yng Nglynllifon, y mae'n eu defnyddio i greu clocsiau Cymru. Mae 'na gynnydd yn y diddordeb mewn dawnsio clocsen yng Nghymru ond prinder pobl i wneud clocsiau. Mae Trefor a'r mudiad Trac eisiau cynnal amnesti clocsiau er mwyn mynd ati i greu Llyfrgell Glocsiau i gynnig dull fforddiadwy i bobl fenthyg clocsiau.
  • Yn ôl adroddiadau'r bobl aeth i'w gweld, roedd y sioe ieuenctid Glee-esque, Sbri!, yn werth chweil a dywedodd Efa Gruffudd Jones ar fore cynta'r ŵyl, ei bod yn teimlo ei bod eisoes wedi gweld un o uchafbwyntiau'r eisteddfod wedi perfformiadau'r penwythnos.

Yn Sir Benfro mae Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesa': dechreuwch weddïo am dywydd braf.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.