Â鶹Éç

Help gyda chyfrifon a phroffiliau plant

Diweddarwyd: 6 Ebrill 2021

Cyfrifon Â鶹Éç i blant

Gall plant o unrhyw oedran greu cyfrif Â鶹Éç. Ond i'w cadw'n ddiogel, mae angen i blant dan 13 oed gael caniatâd rhiant neu warchodwr cyn bod modd iddyn nhw wneud pethau penodol, fel gadael sylwadau ar fyrddau negeseuon.

Gallwch osod caniatâd pan rydych chi'n cofrestru cyfrif i blentyn am y tro cyntaf. Dilynwch y cyfarwyddiadau.

Os ydych chi eisiau rheoli caniatâd rhywbryd eto, mae'n haws os oes gan y ddau ohonoch gyfrifon Â鶹Éç. Fel hyn, gallwch gysylltu cyfrif eich plentyn yn hawdd i'ch un chi, a gosod caniatâd oddi yno unrhyw bryd. Os nad oes gennych eich cyfrif eich hun, gallwch gofrestru am un. Mae'n hawdd ac yn gyflym i'w wneud.

Ond nid oes angen i chi gael cyfrif Â鶹Éç reoli caniatâd. Pan fydd eich plentyn yn ceisio gwneud rhywbeth newydd ar wefan y Â鶹Éç, fel gadael sylwadau ar wefannau i blant, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw gael eich caniatâd chi. Byddwch yn derbyn e-bost, neu gallwch .

Dysgwch fwy am sut i wneud hyn, a llawer mwy, drwy ddilyn y dolenni isod.

Proffiliau plant ar iPlayer

Ar iPlayer, gall blant fewngofnodi gyda'u cyfrif Â鶹Éç eu hunain. Neu, fel rhiant neu warchodwr, gallwch ychwanegu proffil plentyn i'ch cyfrif chi yn lle.

Dysgwch fwy am ddechrau profiad eich plentyn ar iPlayer.

Dim ond cynnwys iPlayer ar gyfer plant dan 13 oed y mae proffiliau plant yn eu dangos, felly gall eich plant bori drwy raglenni yn ddiogel. Fel gyda chyfrif, mae proffil yn golygu y byddan nhw'n derbyn argymhellion sydd wedi eu personoli, ac yn gallu ail-ddechrau rhaglenni o ble orffennon nhw.

Ond yn wahanol i gyfrif, dim ond ar iPlayer mae'n gweithio, ac ni fyddan nhw'n gallu defnyddio nodweddion gwefannau’r Â鶹Éç fel gadael sylwadau, pleidleisio, cystadlu mewn cystadlaethau. Serch hynny, gallwch wastad creu cyfrif i blentyn i roi’r caniatâd ychwanegol iddyn nhw.

Os ydych chi o dan 16 oed a thu allan i’r DU...

Yn anffodus, ni fyddwch chi'n gallu cofrestru am gyfrif neu broffil Â鶹Éç os ydych y tu allan i'r DU ac o dan 16 oed. Os ydych y tu allan i'r DU gyda chyfrif plentyn yn barod, ni fydd yn rhoi mynediad i'r un cynnwys plant sydd ar gael yn y DU.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: