Diweddarwyd: 12 Medi 2022
Os ydych chi鈥檔 blentyn, rhiant neu warchodwr, mae'n rhaid i chi wneud yn si诺r nad ydych chi wedi mewngofnodi i gyfrif 麻豆社 yn barod ar y ddyfais rydych chi鈥檔 ei defnyddio.
Sut i weld os ydych chi wedi mewngofnodi'n barod
1. Edrychwch ar dop y dudalen yma. Ydych chi鈥檔 gweld 鈥淓ich cyfrif鈥 neu enw arddangos wrth ymyl logo鈥檙 麻豆社? Mae hyn yn golygu eich bod chi wedi mewngofnodi i gyfrif 麻豆社 arall yn barod.
2. Cliciwch 鈥淓ich cyfrif鈥 neu鈥檙 enw arddangos.
3. Ar y dudalen nesaf, cliciwch "Allgofnodi". Os ydych chi ar ddyfais symudol, efallai y bydd rhaid i chi glicio ar "Dewislen" gyntaf.
Yna cofrestrwch am gyfrif plentyn
Unwaith rydych chi wedi allgofnodi o unrhyw gyfrif 麻豆社 arall, gallwch gofrestru am gyfrif plentyn. Dyma sut:
1. Ar unrhyw un o wefannau鈥檙 麻豆社, cliciwch ar 鈥淢ewngofnodi鈥 ar dop y dudalen. Mae hwn wrth ymyl logo鈥檙 麻豆社.
2. Ar y sgrin nesaf, cliciwch ar 鈥淐ofrestru nawr鈥.
3. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i roi eich manylion.
4. Os ydych chi'n iau na 13 oed, bydd rhaid i chi ofyn i'ch rhiant neu warchodwr greu cyfrif 麻豆社 i chi. Bydd rhaid i chi ddewis enw defnyddiwr a chyfrinair. Gwnewch yn si诺r eich bod yn cofio'r rhain. Os fyddwch chi'n anghofio eich cyfrinair, ni fyddwch i'n gallu ei ail-osod. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi ofyn i'ch rhiant neu warchodwr i greu cyfrif newydd.
Rhoi鈥檙 rheolaeth i'r rhieni
Unwaith maen nhw wedi cofrestru am gyfrif 麻豆社, mae angen i blant dan 13 oed gael caniat芒d gan riant neu warchodwr cyn gallu gwneud pethau fel:
- Postio sylwadau ar wefannau plant y 麻豆社
- Cael argymhellion personol a gwylio sioeau o鈥檙 fan wnaethoch chi orffen ddiwethaf
- Derbyn hysbysiadau am y pethau maen nhw'n eu hoffi
- Llwytho cyfraniadau ar gyfer cystadlaethau, gemau a mwy