I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Rhaglen 1 - Owain Glynd诺r
Dyma 'rebel' yn ystyr arferol y gair - gwrthryfelwr arfog yn erbyn awdurdod, sef awdurdod Brenin Lloegr, Harri IV (teyrnasodd 1399-1413).
Mae hefyd yn cael ei gyfrif yn arwr cenedlaethol yng Nghymru, yn fwy felly efallai na'r ddau Llywelyn a oedd yn 'dywysogion' cydnabyddedig.
Mae'n hysbys tu draw i Gymru hefyd. Mewn arolwg o 30,000 o bobl trwy Brydain ar gyfer y 麻豆社 yn 2002, dyfarnwyd Owain yn rhif 23 allan o 100 yn y gyfres .
Ym mis Tachwedd 1999 daeth Owain yn 7fed mewn arolwg 'Top Ten Makers of the Millennium' gan bapur newydd y Sunday Times ac yn Rhagfyr 1999 daeth i'r brig mewn pol gan 麻豆社 Wales Online a Ceefax ar gyfer Cymro mwyaf dylanwadol y milflwydd.
Dywedir i Fidel Castro gyfeirio at ddylanwad ei ddull 'gerila' o ymladd ar ei gyrch ef yn Cuba yn y 1950au.
Fe enwyd Prifysgol ddiweddaraf Cymru ar ei 么l (Prifysgol Glynd诺r, yn Sir y Fflint) a chafwyd c芒n amdano - 1404 - gan y Manic Street Preachers.
Mwy am Owain Glynd诺r ar .
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.