Â鶹Éç

Rebels Cymreig - Margaret Haig

Margaret Haig

Rhaglen 4 - Margaret Haig Thomas, Is Iarlles Rhondda

Roedd Margaret Haig Thomas yn unig ferch i D Alfred Thomas, Argwlydd Rhondda - diwydiannwr a gwleidydd rhyddfrydol pur amlwg ar dröad yr 20fed ganrif.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Priododd Margaret â'r bonheddwr Humphrey Mackworth ond roedd yn anniddig gyda bywyd plasty gwledig.

Yn hytrach, ymddiddorodd yn y mudiad i hawlio'r bleidlais i ferched a sefydlodd gangen o'r WSPU (Women's Social & Political Union) yng Nghasnewydd.

Unwaith, adeg ymgyrchoedd y Suffragettes, neidiodd ar astell modur y Prif Weinidog, Herbert Asquith, a gweiddi "Pleidlais i ferched" arno trwy'r ffenestr.

Cafodd ddedfryd o fis o garchar ar ol rhoi bom-dân mewn blwch postio ond fe'i rhyddhawyd hi ymhen ychydig ddyddiau am iddi wrthod bwyta.

Aeth Margaret ati i arwain busnesau niferus ei thad a ddaeth yn ffigwr allweddol ym myd busnes yn delio â materion polisi a chytundebol gwerth cannoedd o filoedd o bunnau.

Un o fentrau pwysig arall Arglwyddes Rhondda oedd sefydlu Time and Tide - cylchgrawn o drafodaeth wleidyddol a llenyddol a wnaeth lwyddo i ddenu cyfranwyr amlwg yn cynnwys D.H. Lawrence, George Orwell, Vera Brittain, Virginia Woolf, Bernard Shaw, Dorothy L. Sayers a C.S. Lewis.

Er iddi etifeddu teitl ei thad, ni chafodd byth yr hawl i fynychu TÅ·'r Arglwyddi. Derbyniwyd merched i DÅ·'r Argwlyddi am y tro cyntaf ym 1958 - y flwyddyn bu farw Margaret.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.