Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ffrwythau a Llysiau

Ffrwythau a Llysiau yw thema yr wythnos hon, gan gynnwys ymweliad 芒 Gardd Eden efo John Ogwen a Gari Williams. Fruits and vegetables is the theme for this week's Cofio.

Mae pawb yn gwybod mai Afal yw ffrwyth Gardd Eden, ond mi roedd Efa am gynnig rhywbeth arall i Adda yn y rhaglen gomedi Chwedlau Jogars efo John Ogwen a Gari Williams yn 1986. Yna gwraig John, sef Maureen Rhys, bu'n myfyrio am y goeden afalau yn eu gardd ac yna Gwennan Schiavone yn olrhain hanes ffrwythau a llysiau.

Ydych chi'n cofio enwau megis Blodyn Tatws, Caleb, Llewelyn, Dan D诺r a'r Dyn Creu? Mi roedd rhaglen Miri Mawr yn boblogaidd iawn yn y saithdegau ac yma ma Blodyn Tatws am fentro i gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod. Oeddech chi'n gwybod mae Cymro a gyflwynodd y banana i Brydain? Mae cofgolofn Syr Alfred Lewis Jones - o Lanedi ger Pontarddulais - i'w weld o flaen adeilad y Liver yn nociau Lerpwl, a fe hefyd sefydlodd y Coleg Meddygol i Afiechydon Trofannol yn y ddinas.

Orig ddifyr efo Alun Jones o'r Bontnewydd sy' di bod yn cadw rhandir; Sally Lewis, Trefechan sy'n s么n am wneud meddyginiaethau llysieuol ac i orffen, y ddau ddigrifwr Idris Charles a Dilwyn Pierce sy'n ymweld 葍 siop y groser ac yn chware o gwmpas efo'r geiriau mwys yn ymwneud 葍 ffrwythau a llysiau.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Maw 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 28 Maw 2021 14:00