Y Nos
Archif, atgof a ch芒n ar thema y nos, yng nghwmni John Hardy. The Night is Cofio's theme this week with John Hardy.
Archif, atgof a ch芒n ar thema'r nos, yng nghwmni John Hardy.
Craig y Nos oedd cartref y gantores fyd enwog Adelina Patti, Mrs Price oedd yn byw ychydig lathenni oddi yno sy'n egluro i Ceri Garnon sut y bu iddi addasu'r castell.
Geraint Lovgreen sy'n holi Huw Chiswell am y g芒n Nos Sul a Baglan Bay a'r seiciatrydd Dafydd Huws sy'n esbonio pam ein bod ni'n breuddwydio. Y naturieuthwraig Bethan Wyn Jones sy'n s么n am y wefr o weld creaduriaid y nos yn y gwyll, a Harri Parri sy'n holi Beti Jones, Llanddeusant yngl欧n ag ysbrydion yn ei chartref Clwchdernog.
Caradog Pritchard sy'n myfyrio a chawn glywed ddetholiad o'i nofel Un Nos Ola Leuad. Mae Gwen Aaron yn esbonio pam fod y lleuad yn disgleirio a'r bardd Iwan Llwyd sy'n darllen ei gerdd Barddoniaeth y Nos. Mae Rob Nicholls yn egluro fod yna le i dywyllwch a nos yn ein hemynau a chawn glywed pwt o berfformiad Ar Hyd y Nos a recordiwyd yn Korea. Tom Evans sy'n holi James Griffiths am y cyfnod cyn trydan ble roedd rhaid dibynnu ar olau cannwyll gyda'r nos.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 21 Maw 2021 14:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2