Penrhyn LlÅ·n
John Hardy sy'n mynd â Cofio ar grwydr i Benrhyn Llŷn ar ffurf archif, atgof a chân. A visit to Llŷn via the Radio Cymru archive with John Hardy.
Casia William, sy'n estyn gair o groeso i Benrhyn LlÅ·n tra bod Walter Williams, a aned yn Nant Gwrtheyrn, yn cofio y gymuned fyrlymus yn ei anterth.
Mae Endaf Emlyn, a fagwyd ym Mhwllheli, yn cofio ymateb i'r albwm Hiraeth a ryddhawyd yn 1974 a Sarah Roberts sy'n rhannu hanes tref Pwllheli,
Hefyd ymhlith y pytiau, Hywel Gwynfryn sy'n holi Jos Jones a Gwilym Jones am eu hatgofion o weithio yn Butlins. Fe glywn ni hanes Tom Nefyn yn ogystal a chlywed rhai o'r straeon ar gofnod yn amgueddfa forwrol LlÅ·n yn yr hen Eglwys Santes Fair yn Nefyn, gan Meinir Pierce Jones.
Lewis Valentine sy'n sôn am y noson a losgodd yr ysgol fomio ynghyd â Saunders Llewis a DJ Williams; A pedwar can mlynedd ers diwedd y system gaethwasiaeth John Dilwyn Williams sy'n rhannu cysylltiadau Llŷn efo'r cyfnod tywyll yma mewn hanes.
Dilwyn Morgan sy'n cofio dyddiau diniwed ei blentyndod yn nghysgod Garn Fadryn a Mona Williams sy'n croesi'r culfor i Ynys Enlli.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 11 Ebr 2021 14:00Â鶹Éç Radio Cymru 2 & Â鶹Éç Radio Cymru