Anifeiliaid Anwes
Cofio'n cyfeillion anwes drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. This week we celebrate our furry friends.
Mae Cofio yn canu clod ein cyfeillion anwes. C诺n, cathod, adar, llygod, moch cwta, reptiliaid, beth bynnag sy'n mynd a'ch bryd, dyma gyfle i glywed hynt a helynt ein cyfeillion mynwesol.
O gi yn canu, aderyn yn gweiddi, criw o gwningod cariadus, i gymanfa gathod o Benygroes, mae pob blewyn a phluen yn cael ei ganmol. Synnwn ar glyfrwch Mot y ci, sioeau'r Moch Cwta, a dyfalbarhad neidr o'r Unol Daleithiau, heb s么n am droeon trwstan cathod ardal Rhuthun!
Caru neu gas谩u, mae anifeiliaid anwes wedi bod yn destun sbort i lawer fel Ifan Gruffudd ac Idris Charles. Mae'r Talwrn yn troedio i fyd blewog o dro i dro hyd yn oed! Heb s么n am Sally'r golomen, aderyn enwog Ephraim a Twm Twm o Fo a Fe! O ie..... byddwch yn barod i gwrdd 芒 Joey y Walabi, o Lanwinio Sir Gaerfyrddin.
Sion Rowlands, Milfeddyg o Gaerdydd sy'n esbonio pryd y newidiodd r么l anifeiliaid o weithiwr i gyfaill. S么n am gariad a chyfeillgarwch mae Katie Hughes Ellis o Borthmadog sy'n berchen ar siop anifeiliaid a salon i g诺n ym Mhwllheli.
Felly mwynhewch awr o fwytho, chwarae a chyfeillgarwch ein hanifeiliaid anwes yng nghwmni Cofio.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 14 Maw 2021 14:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2