Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Lowri Morgan a Stifyn Parri

Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 12 Medi 2012 13:15

Clip

Gwesteion: Lowri Morgan a Stifyn Parri

Gwesteion: Lowri Morgan a Stifyn Parri

Lleoliad y pryd: Gwesty Morgans yn Abertawe

Lowri Morgan

Merch o Dregwyr, Abertawe, fe aeth hi i Ysgol Gynradd Bryn y M么r ac Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera. Mae hi wedi graddio mewn Cerddoriaeth, gan arbenigo ar y llais, ac mae hi'n gantores dalentog yn ogystal 芒 bod yn yn gerddor medrus sy'n chwarae'r ffidil, y fiola a'r piano. Pan yn ifanc, roedd hi'n aelod o G么r Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid Cymru a cafodd gyfle i deithio i America gyda Cherddorfa Gorllewin Morgannwg yn canu alawon gwerin.

Ar 么l graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Lowri i deithio am flwyddyn ac ar 么l dychwelyd cafodd waith yn dysgu cyn dechrau ar ei gyrfa cyflwyno gyda rhaglenni Planed Plant ac Uned 5. Yn ddiweddarach ymunodd 芒 chwmni P.O.P.1 a bellach mae hi'n enwog fel un o gyd-gyflwynwyr y gyfres boblogaidd Ral茂o+.

Fel merch sydd wrth ei bodd yn wynebu her, mae Lowri wedi cael ei magu ar adrenalin a phan oedd hi'n blentyn roedd y teulu yn aml yn treulio eu hafau ar wyliau anturus pan oedd hi a'i brawd bach yn cael eu hannog i fentro. Rhai o'i hoff ddiddordebau hamdden yw cymryd rhan mewn gweithgareddau fel sg茂o oddi ar y piste (Vall茅e Blanche yw un o'i ffefrynnau), eirafyrddio, 么l-fyrddio, sgwba-deifio a llawer mwy.

Un o gampau mwyaf nodedig Lowri yw plymio i ddyfnderoedd y m么r i weld gweddillion y Titanic. Dim ond 80 o bobl sydd wedi gwneud hynny erioed.

Fe'i rhestrwyd yn Dream Team Rygbi Menywod y Byd yn 1996 ac mae hi wedi rhedeg chwech marathon yn Llundain ac Efrog Newydd - ei hamser cyflymaf yw 3 awr ac 8 munud, ac mae hi hefyd wedi rhoi tro ar gystadleuaeth ffitrwydd Ironman.
Mae hi hefyd wedi cymeryd rhan mewn dwy ras enfawr, un yn听 2009 wrth gystadlu mewn ras 222km ar draws Jyngl yr Amazon, am 7 diwrnod, a hynny'n hollol hunangynhaliol ac yn fwy diweddar y Ras Ultra 6633, yn amgylchedd oer Cylch yr Arctig a gorfod teithio 350 o filltiroedd dros gyfnod o wyth diwrnod.


Stifyn Parri

Mae Stifyn yn wreiddiol o Rhosllanerchrugog. Gadawodd gartref yn ifanc i fynychu Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain.

Dechreuodd ei yrfa deledu yn y gyfres 'Coleg' ar S4C. Ond daeth yn wyneb cyfarwydd ar y sgr卯n fach dros Brydain gyfan fel actor a chyflwynydd.

Fe ddilynodd gyrfa lewyrchus ar y llwyfan hefyd. Ei r么l fawr gyntaf, a'r un i lansio ei yrfa yn genedlaethol, oedd Marius yn y sioe gerdd 鈥楲es Mis茅rables' yn y Palace Theatre yn West End Llundain. Bu'n chwarae'r rhan am 2 flynedd ac enillodd lawer o glod amdani.

Bellach mae gyrfa Stifyn wedi mynd ag e tu 么l i'r camera a chefn llwyfan. Ers nifer o flynyddoedd mae wedi bod yn rhedeg cwmni hyrwyddo Mr Producer. Fe oedd cynhyrchydd creadigol noson agoriadol Canolfan y Mileniwm a听 chyngerdd agoriadol y Cwpan Ryder.


Y fwydlen:

Lowri Morgan
Cocos a bara lawr
Cyw iar wedi ei botsio
Pavlova


Stifyn Parri
Ystifflog (quid ) a jeli chili melys
Sgodyn a sglods
Caws


Riset y cocos a'r bara lawr.
Torri'r cig moch yn ddarnau man


Toddi ychydig o fenyn mewn padell a ffrio'r cig moch a'r cocos ynddo


Mewn padell arall, toddwch ychydig fwy o fenyn gan ychwanegu'r bara lawr a'i droi.


Torri cylch o fara gwyn (maint soser) a'i ffrio i wneud 鈥榗routon'.


Rhowch y 'crouton' ar blat gan roi y bara lawr, y cocos a'r cig moch ar ei ben.


Riset brest cyw iar wedi ei botsian.


Gwnewch agoriad bychan yn y frest, i greu rhyw fath o boced, ond byddwch yn ofalus i beidio torri trwy'r frest yn gyfangwbl.


Rhowch 3 tomato 鈥榮unblushed' a thair deilen basil yn y boced gan ychwanegu halen a phupur.
Torrwch ddarn o 鈥榗ling film' a dodwch y frest arno gan wedyn rholio'n dynn a chlymu bob pen i wneud yn siwr na fydd unrhyw ddwr yn gallu mynd mewn i'r 鈥榩arsel'.


Potsiwch y cyw iar mewn dwr berw am chwarter awr.


Mewn padell, ffriwch gennin hyd nes byddant yn dyner gan ychwanegu hufen, halen a phupur ac ychydig o gaws Parmesan. Ychwanegwch fadarch gwyllt ac wedyn gweini'r cyfan gyda'i gilydd.

Darllediadau

  • Sul 9 Medi 2012 13:16
  • Mer 12 Medi 2012 13:15