Main content

Rhodri Williams

Mae Rhodri Ogwen Williams yn un o dîm cyflwyno rhaglen fwyd a diod Radio Cymru - Blas.

Ac yntau'n dwli ar fwyd does dim rhyfedd fod Rhodri yn falch o fod yn rhan o'r rhaglen.

"Dwi wrth ym modd gyda bwyd ac wedi bod erioed. Dwi'n bendant yn un o'r rheini sy'n byw i fwyta yn hytrach na bwyta i fyw!" dywed Rhodri.

"Dechreuodd y diddordeb pan ges i ngeni ac ma' mam yn dyst i hynna!"

Er taw cyflwyno sy'n mynd a'r rhan fwyaf o'i amser, mae Rhodri hefyd yn ddyn busnes ac mae'n gyd-berchennog ar glwb y Cameo yng Nghaerdydd a bwyty One yn y Bae.

"Gan mod i'n treulio cymaint o amser yn bwyta allan mae gen i wir ddiddordeb yn yr holl broses o baratoi bwyd a chyflwyno prydiau blasus o safon. Roedd hi'n gam naturiol i fi fuddsoddi mewn maes sydd mor agos at yng nghalon i."

Llundain yw cartref Rhodri ers dros ddeuddeg mlynedd bellach ac mae'n falch o'r cyfle i gael darlledu'n y Gymraeg a gweithio yng Nghymru unwaith eto.

"Mae 'na gymaint o gynnyrch arbennig yn dod o Gymru bellach mae'n ffantastig cael y cyfle i'w trafod a'u rhannu gyda'r gwrandawyr ar Blas."

Yn ymuno â Rhodri yn y stiwdio bob wythnos mae cogydd proffesiynol a fydd yn cynnig syniadau i'r gwrandawyr adref am brydiau tymhorol. Mae Lisa Jên a Brychan Llyr hefyd yn cyflwyno o rai o sioeau bwyd a marchnadoedd y ffermwyr ar hyd a lled y wlad.