Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Daloni Metcalfe
Rhodri Ogwen Williams yn gwahodd gwesteion i rannu eu hatgofion trwy'r bwydydd sydd wedi chwarae rhan allweddol yn eu bywydau. Guests talk about foods important to their lives.
Gwesteion – Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Daloni Metcalfe
Lleoliad y pryd bwyd – Amser Da, Llanrwst. Perchennog –Deiniol ap Dafydd.
Mae'r ddau westai wedi eu magu yn ardal Llanrwst a thrwy ddewis eu bwydlen arbennig yn dwyn i gof bwydydd a phrydau sydd wedi creu cymaint o argraff arnynt dros y blynyddoedd.
Bwydlen Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Cregyn Gleision Amser Da
Cig Oen Cymreig, tatws a llysiau
Caws Cymreig
Bwydlen Daloni Metcalfe
Coctel Corgimwch
Hyrddyn Llwyd
Llanast Llanrwst
Riset Cregyn Gleision Amser Da.
25g Menyn Calon Wen
1-2 Sialotsyn, tynnu’r croen a’u torri’n fan
1 ewin garlleg, tynnu’r croen a'i falu
1cilogram o Gregyn Gleision o'r Fenai
3/4 litr Chwadan Aur (Bragdy'r Nant)
2-3 llwy fwrdd persli ffres, wedi ei falu’n fan
Pinsied o Halen Môn
1 – Toddi’r menyn mewn sosban fawr
2 – Ychwanegu’r shallots ar garlleg a'i goginio am funud
3 – Ychwanegu’r Cerrig Gleision ac arllwys y cwrw, cymysgu, troi’r gwres i fyny a rhoi ceuad ar y sosban.
4 - Coginio gan ysgwyd yr sosban bob hyn a hyn. Diosg unrhyw gerrig sydd heb agor
5 - Arllwys i bfwlen hefo'r sudd, ei addurno gyda phersli a'i weini gyda bara soda Cymrieg
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 2 Medi 2012 13:16Â鶹Éç Radio Cymru
- Mer 5 Medi 2012 13:15Â鶹Éç Radio Cymru