麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’

Bach-y-graig a Plas Clough

Bach-y-graig, darlun gan Moses Griffiths 1770
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dychwelodd Richard i Gymru ym Mis Ebrill 1567, i briodi ac i adeiladu dau dy yn ei Sir Ddinbych frodorol. Mae'r digwyddiadau hyn yn nodedig, y cyntaf oherwydd ei wraig newydd - Catrin o Ferain, a'r ail oherwydd bod ei dai wedi eu hadeiladu yn arddull Antewrp gan grefftwyr Ffleminaidd, a'r rhain oedd y tai cyntaf yng Nghymru i'w hadeiladu o friciau.

Roedd y ddau dy yn fawr eu maint, ac yn cyflwyno ffurfiau cymesur, a thalcenni grisiog, a ddaeth yn boblogaidd yng Ngogledd Ewrop, ac, o bosibl, fe gawson nhw'u cynllunio gan yr un pensaer ag a gynlluniodd y Gyfnewidfa Frenhinol. Roedd Bach-y-graig 'mor estron i draddodiad Cymreig a datblygiad y Dadeni yn Lloegr, fel eu bod yn unigryw mewn pensaernïaeth cartrefi Saesnig.' Roedd y ty ar amserlen pob ymwelydd ffasiynol â Gogledd Cymru, ac ym 1774 disgrifiodd Dr Johnson ef, yn nodweddiadol iawn, fel 'llai nag a ddisgwyliwn'.

Roedd adeiladu'r fath adeiladau newydd ac anarferol wedi tynnu cryn sylw ac achosi drwgdybiaeth yn lleol. Mae nifer o chwedlau bellach wedi dod yn rhan o goel gwlad, un yn dweud bod Bach y Graig wedi ei godi mor gyflym nes bod y bobl leol yn credu ei fod yn waith y diafol. Mae chwedl arall yn dweud pan fyddai'r adeiladwyr yn rhedeg allan o friciau, byddai llwyth newydd yn ymddangos fel petai trwy hud a lledrith erbyn y bore wedyn ar lan y nant a elwir hyd heddiw yn Nant-y-Cythral. Mewn gwirionedd, mae'n bosib bod defnyddiau ar gyfer y briciau wedi eu cloddio a'u llosgi ar y safle, neu eu bod wedi eu mewnforio o'r Iseldiroedd, fel y briciau ar gyfer y Gyfnewidfa Frenhinol.

Rhoddodd ystafell ddi-ffenestr ym mhen ucha'r ty fodolaeth i fwy o chwedlau - mae traddodiad poblogaidd yn mynnu iddi gael ei hadeiladu'n arbennig er mwyn i Clough gyfathrebu â Satan ynddi, allan o olwg pawb daearol! Roedd eu trafodaethau, (bob amser am hanner nos) yn ymwneud â chodi'r eiddo, gyda Satan yn gontractwr, i'r hwn roedd Clough wedi gwerthu ei enaid.

Mewn gwirionedd roedd Clough yn seryddwr brwd, ac fe gredir ei fod yn defnyddio'r ystafell hon i wneud arsylwadau, gan gyfrannu at waith ei gyfaill, Ortelius, Cartograffydd o Hamburg, a gynlluniodd fapiau ar gyfer morlyw-wyr y16eg ganrif. Roedd Clough yn ganolwr gwerthfawr rhwng Ortelius a'r daearyddwr, yr hanesydd a'r hynafiaethydd o Ddinbych, Humphrey Llwyd, a'i galwodd 'y dyn mwyaf cyflawn'.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Southampton
Distributing the Tichborne Dole
Related Stories
Mysterious Knights Templar
Lady Marbella de Tichborne's curse
Andrew Marvell, man of contradictions




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy