麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Syr Richard Clough - ‘Y Gðr Mwyaf Cyflawn’

Masnachwyr a Marchnadoedd

Arfbais Syr Richard Clough
© Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun
Nôl yn Llundain, aeth Richard i wasanaethu Syr Thomas Gresham fel 'masnachwr' neu reolwr, a chafodd fynediad i Gwmni'r Mercers - hen Urdd o Fasnachwyr, oedd yn allforio defnyddiau gwlân ac yn mewnforio defnyddiau moethus. Gresham, masnachwr ac ariannwr yn ei rinwedd ei hun, oedd cynrychiolydd ariannol arbennig y Frenhines Elizabeth ar y cyfandir.

Roedd masnach Gresham a Clough yn aml yn mynd â nhw dramor, ac yn 1552, symudodd Clough i Antwerp, prifddinas fasnachol Gogledd Ewrop. Yn Antwerp roedd y banc mwyaf prysur a phwysig yng Ngogledd Ewrop, yn delio â masnach rhwng Lloegr, Sbaen a'r Iseldiroedd. Priododd Clough ferch leol, Catherine Muldart o Antwerp a chafodd fab, a etifeddodd ran o eiddo'i dad yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach.

Roedd busnes Clough ei hun yn ffynnu, ac fe gasglodd ffortiwn sylweddol. O dan ddylanwad Gresham, fe fuddsoddodd yn helaeth mewn tiroedd y Goron, ac fe roddodd ei weithgareddau fodolaeth i'r dywediad, a oedd unwaith yn enwog yn Ninbych - 'Efe a aeth yn Clough', gâi ei briodoli i unrhyw un a gasglai cryn gyfoeth. Disgrifiodd bardd Cymreig o’r cyfnod ei lwyddiant cyflym fel 'Faen tros Iaem'. (mor gyflym â charreg dros rew).

Parhaodd Clough i weithio ar ran Gresham, ac o'r herwydd ar ran y Frenhines, wrth drafod benthyciadau ac wrth smyglo arian, arfau a nwyddau tramor yn ôl i Loegr.

Enillodd llwyddiant Clough yn y materion hyn ymddiriedaeth a hyder ei gyflogwr, ac ysgrifennai Clough ato'n aml ac yn faith. Byddai ei lythyrau'n llenwi 20 tudalen gan ddisgrifio nid yn unig y manylion masnachol, ond hefyd roi sylwebaeth ar ddigwyddiadau lleol megis angladdau swyddogol, neu wyliau. Byddai'r llythyrau hyn, pan gaent eu pasio ymlaen gan Gresham, yn rhoi i Syr William Cecil, goruchwyliwr casglu gwybodaeth gwleidyddol cyntaf y Frenhines, wybodaeth amhrisiadwy yn ymwneud â'r Iseldiroedd.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Southampton
Distributing the Tichborne Dole
Related Stories
Mysterious Knights Templar
Lady Marbella de Tichborne's curse
Andrew Marvell, man of contradictions




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy