麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - De Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 De Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Somaliaid yn Nhrebiwrt

Y gymuned Somali

Cardiff Bay
© 麻豆社
Y gymuned Somali yng Nghaerdydd sydd â’r nifer uchaf yn y DU o Somalïaid a aned ym Mhrydain. Cawsant eu denu i Gaerdydd yn wreiddiol fel morwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn fuan wedi agor camlas Suez, i weithio yn y dociau llewyrchus. Daeth y dynion ifanc yma fel morwyr, nid fel ffoaduriaid na gweision, wedi eu gyrru gan yr awydd i ennill arian i brynu mwy o dda byw nôl yn Somalia. Ymgartrefodd rhai ohonyn nhw yma a phriodi gwragedd lleol, er i eraill ddychwelyd adref o bryd i’w gilydd i ymweld â’u teuluoedd, gan fyw mewn lletyau yn ystod eu hamser ar y tir. Câi’r lletyau yma’u rhedeg gan Somaliaid ac roedden nhw’n cynnig i’r morwyr ar ymweliad hwylustod iaith ac arferion cyfarwydd.

Oherwydd presenoldeb trefedigol Prydain yn Somalia roedd yn bosibl i forwyr weithio a byw yn y DU. Fel arfer roedd digon o waith ar gael ar gyfer y morwyr yn y dociau, ac yn fwy diweddar yn y diwydiant dur, er eu bod yn aml yn llenwi swyddi nad oedd gweithwyr gwyn eu heisiau, unai ar yr agerfadau crwydrol lle roedd amodau gwaith yn galed, neu yn y llynges fasnach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd y morwyr Prydeinig ei symud i’r Llynges Frenhinol. Nid oedd yn fywyd hawdd, a gallai cyfnodau o argyfwng economaidd olygu trychineb: gwelodd y Dirwasgiad Mawr gannoedd o forwyr Somali’n marw o newyn oherwydd prinder gwaith.

Khat;/Quadd
dail gwyrdd sy’n cael eu cnoi’n ffres – caiff ei ddefnyddio fel ‘defnydd adloniadol’; mae hwn yn arferiad traddodiadol sy’n tanlinellu’r gwahaniaeth rhwng crefydd a diwylliant yn Somalia. Mae Islam yn dweud na chewch gymryd unrhyw beth sy’n pylu’r meddwl, ond mae cnoi Quadd yn draddodiad diwylliannol. Mae dadl yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ynglŷn â’r arferiad gan y gall y defnydd o’r cyfnerthwr naturiol hwn gael effeithiau niweidiol ar fywyd teuluol a chymunedol.
Gyda chychwyn y rhyfel cartref yn Somalia yn y 1980au, cafodd morwyr o’r gymuned sefydledig hon ganiatâd i ddod â’u teuluoedd draw. Mae cymunedau Somali mawr hefyd yn Llundain a Manceinion ond yr un yng Nghaerdydd yw’r hynaf – ‘fel ail gartref i’r bobl yma’ yn ôl Adbi Sugulle, “mae yna ddihareb Somali sy’n dweud ‘Caerdydd yw fy nghartref’”.

Mae crefydd yn rhan hanfodol o fywyd Somali. Does dim lle i gyfaddawdu yn y grefydd moslem suni, er bod ambell wrthdrawiad rhwng crefydd a diwylliant – mae’r boblogaeth Somali yn y DU yn fwy tebygol o ddathlu penblwyddi, sydd ddim fel arfer yn digwydd yn Islam. Mae gweddïo ar ddydd Gwener yn bwysig iawn. Mae nifer o bobl ifanc a theuluoedd yn mynd i’r Mosg Al-Noor; cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu ar safle Mosg Stryd Peel. Cafodd Mosg Stryd Peel ei adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond fe’i chwalwyd fel rhan o ailddatblygiad Trebiwt ym 1988.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Tyne
13th Century church on Holy Island
Related Stories
Bristol's involvement in the Slave Trade
The UK's original carnival
Francis Barber




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy