麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - De Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 De Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Somaliaid yn Nhrebiwrt

Somalia

Mae Somalia’n ffurfio pen Horn Affrica yn Nwyrain Affrica. Caiff ei ffinio gan Kenya yn y de, Ethiopia yn y gorllewin, Djibouti yn y gogledd-orllewin, Gwlff Aden yn y gogledd a Chefnfor yr India yn y dwyrain.

22/4/1884 - East Dock
© 麻豆社BHAC [Butetown History and Arts Centre]
Yn yr 1880au roedd Prydain a’r Eidal yn meddiannu gwahanol rannau o Somalia, ac fe barhaodd o dan reolaeth drefedigol hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1950 roedd y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio dros ganiatáu annibyniaeth i Somalia, ac ym 1960 fe ffurfiwyd y Weriniaeth Somali.

Ar ôl dim ond naw mlynedd cafodd y llywodraeth sifil ei dymchwel gan Siad Barre mewn gwrthryfel militaraidd. Dechreuodd gwrthwynebiad arfog mewnol i’w lywodraeth yng ngogledd y wlad yn yr wythdegau hwyr, ac er iddo gael ei atal mewn modd creulon, ymunodd grwpiau eraill oedd â chefnogaeth y clan â’r ymdrech, gan yrru Siad Barre allan yn gynnar ym 1991.

Mahmood Mattan
Y gwr olaf i gael ei ddienyddio yng ngharchar Caerdydd oedd morwr o Somalia –Mahmood Mattan, a grogwyd ym 1952. Wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, cafodd faddeuant yn 1998 wedi i’r cyhuddiad gael ei wyrdroi wedi iddi ddod yn amlwg na chafodd brawf teg. Yn y pen draw derbyniodd ei deulu iawndal, y tro cyntaf i’r Swyddfa Gartref wneud taliad i deulu person a gafodd ei grogi ar gam. Delwedd o Mahmood Mattan ac eraill yn yfed coffi yn ‘Berlin’s Milk Bar’ 1952 gan Bert Hardy yn dilyn cais i David Knight – nid yw wedi cadarnhau ei fod wedi ei ddarganfod.
Ym 1972 cafodd yr iaith Somali, gyda llawysgrifen wedi ei seilio ar y wyddor Rhufeinig ei mabwysiadu fel iaith swyddogol y wlad gan gymryd lle’r ieithoedd trefedigol Saesneg ac Eidaleg mewn llywodraeth ac addysg.

Mae’r bobl Somali wedi eu rhannu i nifer o lwythau, grwpiau sy’n olrhain eu llinach cyffredin yn ôl i un tad. Mae’r llwythau hyn, sydd, yn eu tro, wedi eu isrannu’n nifer o is-lwythau, yn uno ar lefel uwch i ffurfio teuluoedd-llwythau. Mae’r diwylliant Somali, gyda thraddodiad crwydrol gaiff ei arfer gan tua hanner y boblogaeth, yn annog teithio. Mae yna ddihareb Somali sy’n dweud, “Nid oes gan y person sydd heb deithio lygaid i weld”. (Abdi Agli, Caerdydd)


Tudalennau: [ 1, 2, 3 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
London
Crowds
Related Stories
Bristol's involvement in the Slave Trade
The UK's original carnival
Francis Barber




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy