麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Lluniau
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia

Dianc i’r anialwch

Yno gwireddodd y gwladfawyr eu breuddwydion, a daeth Dyffryn Chubut, ar ôl llawer o waith llaw i’w ddyfrhau, yn glytwaith o ffermydd, pob un â Chymry arnynt, ac chafodd eu rhifau eu cynyddu wrth i ragor o ymfudwyr gyrraedd.

Gaucho Cymreig wrth ei waith yn y 1960au
© 麻豆社
Sefydlon nhw gysylltiadau cyfeillgar â’r Indiaid lleol, heb ladd na chaethiwo’r un ohonynt. Daeth yr unig wrthdaro ym 1883 pan laddwyd tri Chymro ifanc ar daith hela gan Indiaid a gredai mai aelodau Byddin yr Ariannin oeddynt. Ar y pryd roedd y Fyddin yn canlyn ei pholisi difodi “Concwest yr Anialwch” yn erbyn yr Indiaid.

Chymerodd y Cymry ddim rhan yn y fath bolisïau, ac yn aml iawn gweithredon nhw fel eiriolwyr ar ran yr Indiaid yn erbyn y llywodraeth yn Buenos Aires.

Canolbwyntion nhw ar adeiladu eu hiwtopia eu hunain: Cymraeg oedd iaith yr ysgolion, eu capeli niferus a’u llywodraeth leol eu hunain, a dyma’r gymuned gyntaf yn y byd i roi’r un hawliau pleidleisio i ddynion a merched.
Gwersylla ar y ffordd i’r Andes
© 麻豆社
Wedi tyfu’n rhy fawr i’r tir ar gael yn y dyffryn, roedden nhw wedi sefydlu cangen bellach yn yr Andes.

Ond roedd hi’n rhy dda i bara. Dim ots pa mor ddelfrydyddol oedd breuddwyd y gwladfawyr o ryddid, doedd eu cymuned byth yn mynd i dderbyn ymreolaeth mewn gwirionedd oddi wrth lywodraeth ehangol yr Ariannin, llywodraeth a oedd eisiau atgyfnerthu ei rheolaeth ar yr ardal.

Gan Grahame Davies


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
To America
The White House
Related Stories
Canolbarth Cymru Quakers
Devon Fishermen
Coventanting community in Carolina




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy