| |
|
|
|
| |
© 麻豆社
|
| | |
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |
|
Ymfudo oedd yr ateb. Ond i ble? Yn America, roedd sawl ymgais i sefydlu gwladfeydd Cymreig wedi methu wrth i’r gwladfawyr gael eu cymhathu â’r cymdeithasau mwyafrifol yno. Byddai’r un peth yn wir am unrhywle yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd Patagonia, serch hynny, yn ddigon pell i fwrdd – wyth mil o filltiroedd i fod yn fanwl – i osgoi unrhyw ymsefydlwyr Ewropeaidd eraill. Doedd hi ddim yn Brydeinig ac roedd Llywodraeth yr Ariannin yn fodlon gadael i ymsefydlwyr gael tir er mwyn cryfhau hawl y llywodraeth i’r ardal.
Y Wladfa: Croeso ar y paith
Michael D Jones, o’r Bala yng Ngogledd Cymru, fu’r Moses a arweiniodd – neu a anfonodd yn hytrach, am nad ymfudodd Jones ei hunan byth mewn gwirionedd – ei bobl i Wlad yr Addewid yn y Wladfa. Fel cenedlaetholwr Cymreig cynnar, hybodd yn frwd y weledigaeth o Gymru Gymraeg, anghydffurfiol, rydd ym Mhatagonia.
Roedd e’n gwybod bod arolygon Prydeinig wedi dynodi Patagonia yn anialwch na ellid byth cynnal pobl. Ond, gyda hunanfeddiant sbin ddoctor, lliwiodd ef a’i gyd ddelfrydwr Lewis Jones – a wnaeth ymfudo – dros y ffaith yma, a chyflwynon nhw ddelwedd llawer mwy deniadol i’r darpar ymfudwyr.
Erbyn Mai 1865, daethpwyd o hyd i ddigon o arloeswyr er mwyn i’r Mimosa hwylio. Y Bala oedd cartref y prosiect, ac mae’n cynnal dathliad bob blwyddyn - ‘Gŵyl y Glaniad’ – i nodi dyddiad glaniad cyntaf yr ymfudwyr ar 28ain Gorffennaf. Serch hynny, doedd y prosiect hwn ddim yn gyfyngedig i ardaloedd gwledig yn unig, gan fod llawer o’r arloeswyr wedi dod o ardaloedd diwydiannol newydd cymoedd De Cymru, a phan lanion nhw ym Mhorth Madryn, ar lannau’r Iwerydd yn yr Ariannin, gwelon nhw fod eu sgiliau, fel dynion rheilffyrdd neu lowyr, yn hollol ddiwerth yn yr anialwch.
Plac i gofio Michael D Jones. Mae’n darllen “Arloeswr - Rhyddid Cymru - Bu fyw yma ym Modiwan." © 麻豆社 | Prin y gwnaethon nhw oroesi. Bron â newynu ar adegau, cawson nhw eu hachub weithiau gan lywodraeth yr Ariannin. Ond dalion nhw ati a llwyddon nhw gartrefu yn nyffryn Chubut, lle torrodd afon sianel gul drwodd i’r anialwch o’r Andes. Penderfynodd yr ymfudwyr roi’r enw Camwy i’r afon.
Gan Grahame Davies
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|