|
|
|
| | | | |
Neuadd Brangwyn, Abertawe - Cartref Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig |
|
Neuadd Brangwyn - Neuadd Gyngerdd
Ar y 23in Hydref 1934, cafodd y Guildhall ei agor gan EUB Dug Caint. Cynhaliwyd y cyngerdd agoriadol yn Neuadd Brangwyn y noson honno gan Gôr Meibion Brenhinol Abertawe a'r Cylch, ac o'r adeg honno nes i Neuadd Dewi Sant gael ei gwblhau yng Nghaerdydd, y Neuadd oedd yr unig neuadd gyngerdd fawr a adeiladwyd yn arbennig yng Nghymru.
Ysgogodd y cyngerdd cyntaf hwn y sylw gan 'Onlooker' a oedd yn ysgrifennu cologn wythnosol yn yr 'Herald of Wales', bod '… roedd Neuadd Brangwyn yn leoliad gwych. Mae'n gwneud i rywun ystyried a fyddai'n bosibl adfywio'r traddodiad gwych hwnnw a fodolai yn Abertawe fel canolfan gerddorol De Cymru. Efallai bod rhywbeth i'w ddweud dros ddefnyddio'r neuadd ar achlysuron cymdeithasol, ond gwir bartner y paneli hyfryd yw'r chwaer gelfyddyd, sef cerddoriaeth.'
Gall Neuadd Brangwyn ddal dros 1,300, a chafodd ei chreu fel neuadd ymgynnull a chyngerdd. Cafodd y llwyfan ei gynllunio i ddal y cerddorfeydd symffoni mwyaf, wedi ei gefnogi gan organ y tu ôl i gril metel addurnedig, gyda stepiau'n esgyn yn y cefn i ddal corau.
Mae acwstig y neuadd wedi ei ganmol am ddarparu sain arbennig ar gyfer datganiadau, darnau cerddorfaol a cherddoriaeth siambr fel eu gilydd. Mae nifer o gerddorfeydd ac unawdwyr yn dewis recordio yn y Neuadd yn hytrach na lleoliadau eraill yn Llundain neu yng ngweddill y DU. Ym 1936, disgrifiodd Syr Thomas Beecham y neuadd yn ei dyddiau cynnar fel un o'r neuaddau cyngerdd gorau yn Ewrop, pan chwaraeodd yno gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.
Yn fwy diweddar, gwnaeth y gantores Charlotte Church, un o'i recordiadau cyntaf yn y Neuadd, ac Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 麻豆社 yn perfformio a recordio cyngherddau yno ar gyfer 麻豆社 Radio 3.
Cymrwch olwg ar y Guildhall a Neuadd Brangwyn yn y darn hwn allan o raglen 麻豆社 Cymru, First Resort cliciwch yma
Neuadd Brangwyn Heddiw
Mae Neuadd Brangwyn wedi gweithredu fel canolbwynt i lywodraeth leol a chyfiawnder. Mae hefyd yn ganolbwynt seremonïau dinesig ac mae'n un o brif ganolfannau bywyd cymdeithasol a diwylliannol Abertawe. Er bod yr Ymerodraeth yn pylu efallai pan oedd Brangwyn yn gorffen yr olaf o'i gyfres, mae'r paneli'n destament i weledigaeth greadigol yr artist, ond hefyd y Cyngor, am ddarparu amgylchedd dinesig wedi ei adeiladu'n bwrpasol lle y gallai'r hyn sydd wedi ei gyflawni'n artistig gael ei fwynhau gan y cyhoedd ar sail dyddiol.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|