|
|
|
| | | |
Neuadd Brangwyn, Abertawe - Cartref Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig |
|
Y Guildhall
Ym 1907, penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe bod angen neuadd tref a chyfadail dinesig, a dechreuodd gynllunio i ddarparu cyfleusterau, yn cynnwys neuadd ymgynnull gyhoeddus. Ym 1930, aeth y cynllun allan i gystadleuaeth a denodd 77 o gynigion, a detholwyd Mr Percy Thomas o Gaerdydd o'u plith.
Adeiladwyd y Guildhall ym Mharc Victoria ychydig bellter o ganol dinas Abertawe. Mae'r tor cloc mawr yn sefyll 50 metr (160 troedfedd) uwchben y fynedfa ac mae'n darparu canolbwynt i'r treflun. Mae gan y twr flaenau rhwyflongau anferth (cyfeiriad at chwedl gwreiddiau Llychlynnaidd Abertawe), sy'n ymestyn allan fel balconïau ar lefelau uchaf y tor.
Mae tu allan y Guildhall wedi ei orchuddio â Charreg Portland, sy'n cyferbynnu â'r defnyddiau geir yn yr adeiladau cyfagos. Cafodd yr adeilad cyfan ei gynllunio o gwmpas cowt, gyda Neuadd Brangwyn yn y bloc Ymgynnull Cyhoeddus ar yr ochr ddeheuol.
Cafodd y garreg sylfaen ei gosod ym 1932 - gydag chodi'r adeilad yn digwydd mewn degawd o ddirwasgiad enbyd a diweithdra lleol uchel. Roedd y Cyngor yn ceisio gofalu bod y rhan fwyaf o'r costau adeiladu yn cael ei wario ar weithwyr, a helpodd i leihau rhywfaint o galedi lleol a gwneud defnydd o gynlluniau cymorth i'r di-waith, yn hytrach ng ar ddefnyddiau.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|