Llaeth a ffrwythau bob bore i'r plant
Cychwyn da i'r diwrnod ym Mhabell y Mudiad Ysgolion Meithrin
Bydd llaeth a ffrwythau yn cael eu rhannu rhwng plant fydd yn ymweld â phabell y Mudiad Ysgolion Meithrin ar faes yr Eisteddfod bob dydd.
Bydd yn Amser llefrith a ffrwythau am 10.30 bob bore gyda llaeth organig gan gwmni Daioni a ffrwythau gan siop O'r Pridd i'r Plât, Llanrwst ar gael i blant fydd yn ymweld â'r stondin bryd hynny.
Ac wedi'r fath gychwyn da i'r diwrnod bydd pob math o weithgareddau eraill hefyd gan gynnwys sesiynau crefft bob dydd ar y thema Y Tywydd a'r Tymhorau ynghyd â sesiynau peintio wynebau ac amser stori ar rai dyddiau.
Un o uchelbwyntiau'r wythnos fydd cyhoeddi gwefan newydd y Mudiad yng nghwmni'r Jac y Jwc a Sali Mali am 12.00 ddydd Llun.
Yn dilyn bydd lansiad Taith yr Å´yl Feithrin yng nghwmni'r Brodyr Gregory am 1.00.
Bydd sawl sesiwn ar addysg iechyd i rieni ddydd Mawrth gan gynnwys sesiwn ymwybyddiaeth o'r fogfa - asthma a llid yr ymennydd.
Bydd llyfr gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn cael ei gyhoeddi hefyd.
Ddydd Mawrth a Mercher bydd Martyn Geraint yn perfformio a'r consuriwr Howard Hughes ddydd Mercher a Iau.
Ddydd gwener bydd gwahoddiad i droi eich llaw ar geisio gwneud selsig yng nghwmni'r cigydd lleol, Ieuan Edwards - Edwards o Gonwy - neu gymryd rhan mewn cystadleuaeth dyfalu blas sosej'.
Bydd Sam Tân, Norman, Superted a'r Bobinogi yn ymweld â'r stondin yn rheolaidd. Y tu allan i'r uned bydd parc chwarae lle gall plant gyd-chwarae dan oruchwyliaeth eu rhieni.
Gellir darllen e-byst neu syrffio'r we ar gyfrifiadur yn yr uned a bydd modd i unrhyw un fydd am weld lle mae'r cylch meithrin neu'r cylch Ti a Fi agosaf i'w cartref wneud hynny.