Arddangosfa lluniau Comics
Doniolwch a chyffro lluniau Robin Griffith
Mewn cornel glyd o Amgueddfa Llandudno mae arddangosfa fechan a fydd o ddiddordeb arbennig i fynychwyr Eisteddfod yr Urdd.
Casgliad yw'r arddangosfa, Comics a Llyfrau Plant Cymraeg, o luniau stribed a wnaed gan yr arlunydd Robin Griffith ar gyfer cylchgronau'r Urdd.
Yr oedd Robin Griffith yn arlunydd medrus yn y maes hwn a'i yrfa yn rhychwantu cyfnod o bedwar i wyth degau y ganrif ddiwethaf yn cyfrannu i gylchgronau'r Urdd fel Cymru'r Plant.
Fel y gwelir yn yr arddangosfa yr oedd ei waith gystal ag unrhyw waith tebyg a welid mewn cylchgronau Saesneg, yn llawn cyffro a doniolwch - ac yn gwbl Gymreig eu naws.
Ymhlith ei greadigaethau yr oedd Atom Jones, ei ymgais gyntaf, a gyhoeddwyd yn y papur newydd Y Cymro ddiwedd y Pedwardegau gydag Ifor Bowen Griffith, un o golofnwyr rheolaidd y papur, yn llunio'r stori.
Yr oedd y ddau ohonyn nhw yn byw yng Nghaernarfon ac aeth Robin Griffith, a fu farw yn 1983, yn ei flaen i greu nifer o'i gymeriadau ei hun gan gynnwys Ananias Jones yr anturiwr ac Owi'r Oen - cymeriadau oedd yn apelio at bob oed o'r plant lleiaf i ieuenctid a hÅ·n.
Yn yr arddangosfa mae fersiwn stribed lluniau bendigedig o stori'r Hen Siandri gan W J Griffith Henllys Fawr a gwelir hefyd luniau a wnaeth i ddarlunio straeon.
Mae'r cyfan o'i waith yn llawn cynnwrf a digrifwch gyda lluniau ar gyfer cloriau mewn lliw llawn ond y stribedi eu hunain mewn inc du.
Trefnwyd yr arddangosfa ar y cyd â mab yr arlunydd, Gareth Griffith, sy'n byw yn Nyffryn Ogwen.
Athro ysgol gynradd yng Nghaernarfon oedd Robin Griffith wrth ei alwedigaeth ond er mor fedrus oedd fel arlunydd ni fynychodd erioed goleg celf ond dysgu ei hun trwy ymarfer ei grefft.
Yr oedd o hefyd yn mwynhau paentio ac fe baentiodd luniau olew yn darlunio ei hoff dafarn, y Twthill Vaults yng Nghaernarfon, a'i chymeriadau ond nid yw'r rheini yn rhan o'r arddangosfa.
Er mai arddangosfa fechan yw hi fe fydd yn dwyn atgofion i lu o ddarllenwyr Cymraeg y mae cylchgronau fel Cymru'r Plant a Hwyl er enghraifft yn rhan o'u cynhysgaeth.
Yn cael ei hagor yn swyddogol nos Wener Mai 23 bydd y lluniau i'w gweld tan Fehefin 8 2008.
Rhif yr amgueddfa yw: 01492 876517.