Â鶹Éç

Lowri Gruffydd, Swyddog Prosiectau Canolfan addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg

'Mantais' - creu papurau £20

Tynnu sylw at fanteision cyrsiau coleg Cymraeg

Mae pobl yn prysur wneud eu harian eu hunain ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae'r cyfan yn digwydd ym mhabell 'Mantais' lle mae ymwelwyr yn cael gwahoddiad i ddylunio eu papur ugain punt eu hunain.

Syniad yr arlunydd Bedwyr Williams ydi o ac mae templad ar gael i'w addasu gyda lle i gynnwys wyneb rhywun enwog o'ch dewis chi.

Ac nid yn annisgwyl mae Mr Urdd ymhlith y rhai sydd wedi eu cynnwys yn barod.

Y syniad yw llunio papur ugain punt ar gyfer Cymru'r dyfodol a ddydd Sadwrn bydd Bedwyr ym mhabell Mantais am ddau o'r gloch yn cyhoeddi pwy yw'r enillydd gyda gwobr o £30 (go iawn) i'r buddugol.

Eglurodd Ioan Wyn Evans mai ymgyrch i hyrwyddo addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ydi Mantais.

Mae myfyrwyr sydd eisoes yn dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn egluro pam fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn syniad da ac yn sôn am eu profiadau ar www.mantais.ac.uk

Hefyd yn cael sylw ym mhabell Mantais mae cynllun noddi amgylcheddol cyfrwng Cymraeg o'r enw AmNawdd sydd yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg

Dywedodd Lowri Gruffydd, Swyddiog Prosiectau gyda'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, fod AmNawdd yn cael ei redeg ar y cyd â Chyngor Cefn gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.

"Y nod ydi cynyddu'r nifer o arbenigwyr Cymraeg yn y maes amgylcheddol a chynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y sectorau addysg uwch.

Mae ffurflen ar y wefan i wneud cais am grant o £1,500.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.