Â鶹Éç

Llywydd y Dydd

Iolo ap Dafydd - crwydrwr byd yn dychwelyd i'r fro

Mae Iolo ap Dafydd yn un o newyddiadurwyr mwyaf profiadol y Â鶹Éç yng Nghymru yn gweithio gyda'r Gorfforaeth er 1993.

Ar hyn o bryd ef yw'r gohebydd amgylchedd yng Nghymru ac mae hefyd yn cyflwyno'r rhaglen Newyddiono dro i dro ac yn gohebu dramor.

Yn wreiddiol o Lanrwst mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy. Symudodd i Gaerdydd ar ôl graddio mewn Cymraeg a Hanes ym Mangor ac mae'n dal i fyw yno - yno gyda'i wraig, Siân a'u dwy ferch.

Treuliodd gyfnodau yn byw dramor hefyd; yn yr Iseldiroedd, Israel, Seland Newydd a Gwlad Belg. Bu'r teulu cyfan yn byw ym Mrwsel pan oedd Iolo'n Oohebydd Ewrop Â鶹Éç Cymru.

Yr oedd yn Efrog Newydd adeg ymosodiadau Medi 11, 2001. Bu'n gohebu hefyd o ryfel Afghanistan, Gwlad yr Iorddonen, rhyfel Irac a llawer mwy.

Llawn cystal felly mai teithio yw un o'i brif ddiddordebau y tu allan i waith gan fanteisio ar bob cyfle i ddod i adnabod rhannau newydd o'r byd.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon o bob math ac ef yw awdur colofn rygbi wythnosol Golwg. Mae'n ymddiddori hefyd mewn dringo, cerdded a thynnu lluniau.

Bu'n aelod o'r Urdd ers ei ddyddiau ysgol.
'Pwysigrwydd mawr yr Urdd fel mudiad Cymraeg imi yw ei fod yn agor y drws i gymdeithas Gymraeg naturiol ac yn caniatáu i Gymry ifainc o bob sir gwrdd â'i gilydd,'' meddai.

Am yr eisteddfod arbennig hon dywedodd:
"Mae heb os yn glod i'r Urdd a'r gwaith caled gan y gwirfoddolwyr lleol, i baratoi ar gyfer prifwyl ieuenctid Cymru, a dod â hi eto i ardal ble mae lleiafrif sy'n siarad y Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen at ymweld â'r Maes, i ddangos fy nghefnogaeth a hefyd i'n hatgoffa ni Gymry Cymraeg, mai'n braint a'n cyfrifoldeb ni ydy sicrhau y bydd parhad a ffyniant.''


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.