Â鶹Éç

Galw am greu sioeau Cymreig - Jeremy Turner

Jeremy Turner

01 Mehefin 2011

Rhoddodd un o gyfarwyddwyr theatr blaenllaw Cymru bwyslais ar greu sioeau theatr yn defnyddio deunydd o Gymru yn hytrach na throi at ddeunydd Saesneg ac Americanaidd.

Yr oedd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr artistig theatr Arad Goch a chyfarwyddwr sioe lwyddiannus Plant y Fflam yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y llynedd, yn trafod ei gynlluniau ar gyfer cynhyrchiad nesaf Theatr Ieuenctid yr Urdd pan wnaeth ei sylwadau am bwysigrwydd defnyddio'n deunydd ein hunain.

Yn dilyn llwyddiant Plant y Fflam wedi ei sylfaenu ar albwm Edward H Dafis dywedodd mai albwm arall gan y grŵp fydd sylfaen y sioe nesaf hefyd, Sneb yn Becso Dam.

"Mae'n sôn am faterion sydd o hyd o bwys i bobl ifainc Cymru . . . am fywyd y dref a bywyd cefn gwlad a gwarchod etifeddiaeth a llunio Cymru gyfoes yr unfed ganrif ar hugain," meddai.

"Dyna fydd yr her am y flwyddyn nesaf," ychwanegodd.

"Ac mae'n mynd i fod yn sioe wahanol iawn i Blant y Fflam. Mae'r deunydd yn mynd i fod yn fwy caled ac mae llawer iawn o gwestiynau a dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda'r bobl ifainc iddyn nhw ddatblygu sgript gyda fi a gweddill y tîm," meddai Mr Turner sydd hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.

Bydd y cynhyrchiad mewn tri lleoliad yn 2012 yn benllanw prosiect a gefnogwyd gan y Legacy Trust UK a Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Wrth sôn am ei weledigaeth fel cyfarwyddwr Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd cyfeiriodd Jeremy Turner at sawl nod a osododd iddo'i hun.

"Gosodes sawl bwriad gan gynnwys galluogi aelodau'r cwmni i hyfforddi o dan arweiniad amrywiaeth o artistiaid creadigol proffesiynol, defnyddio arddulliau perfformio cyfoes - rhai ohonynt yn 'anghonfensiynol' neu answyddogol sy'n rhan o fywyd cyfoes pobl ifanc a dangos fod modd creu theatr gyfoes a deinamig wrth ddefnyddio deunydd Cymraeg.

Yn ymuno a Mr Turner galwodd un o gyn aelodau'r cwmni ac actores broffesiynol, Lynwen Haf Roberts, ar bobl ifainc o bob rhan o Gymru fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r cwmni.

"Roedd cael bod yn rhan o gwmni theatr yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Fe roddodd sylfaen dda i mi o ran hyfforddiant ond yn fwy na dim, roedd yn le gwych i wneud ffrindiau a dod i adnabod pobl o bob rhan o Gymru sydd bellach yn ffrindiau da iawn i mi," meddai Lynwen sy'n dod o Lanfair Caereinion.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Gêm newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.