Â鶹Éç

Joe Allen - methu bod yn y Steddfod

01 Mehefin 2011

Fydd Joe Allen, llywydd dydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, ddim ar y maes yn ystod y dydd.

Anfonodd Joe, a chwaraeodd yn y gêm allweddol yn Wembley nos Lun, ei ymddiheuriadau a neges fideo a ddarlledwyd ar y maes.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd na allai fod yn bresennol oherwydd "rhesymau personol".

Yr unig un sy'n siarad Cymraeg o dîm llwyddiannus yr Elyrch diolchodd Joe I'r urdd am y cyfleoedd gynigiodd y m,udiad iddo.

Daw y chwaraewr canol cae 21 oed yn wreiddiol o Arberth Sir Benfro ac ymunodd â thîm pêl-droed Abertawe pan oedd yn 16 oed.

Meddai mewn datganiad a oedd wedi ei baratoi ymlaen llaw: "Pan oeddwn i yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Y Preseli rwy'n cofio teithio i Aberystwyth i gystadlu mewn pencampwriaethau pêl-droed.

"Roedden nhw wastad yn ddiwrnodiau roeddwn i'n edrych ymlaen atynt yn fawr. O ran fy ngyrfa roedd cymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn yn help enfawr i mi ddatblygu fel chwaraewr ac yn un o'r rhesymau pam fy mod i'n chwarae pêl-droed i'r safon yr ydw i heddiw."

Ac yntau wedi chwarae i'r Elyrch dros 100 o weithiau mae Joe wedi ennill dau gap yn chwarae dros Gymru hefyd.

Dywedodd fod ganddo atgofion melys o fynd i aros yng ngwersyll Llangrannog pan oedd yn blentyn a hefyd cymryd rhan yn yr Eisteddfodau gyda'r ysgol.

"Mae'n bleser anferthol i fod yn Llywydd y Dydd eleni. Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r Eisteddfod i blant a phobl Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weld fy ninas leol yn croesawu pobl o bob cwr o'r wlad. Rwy'n siŵr y bydd yn Eisteddfod i'w chofio," meddai ar ei neges fideo.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Gêm newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.